REF 2014: Ysgol Gwyddorau'r Eigion ar ben ei digon ar 么l y canlyniadau REF diweddar
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion Prifysgol 亚洲色吧 i'r uned asesu REF "Systemau'r Ddaear a'r Amgylchedd" wedi cael ei gosod yn y 15ed safle allan o 43 yn Sector y Deyrnas Unedig am ei hansawdd.
Yn ogystal ag ennill safle cenedlaethol uwch nag yn yr asesiad ymchwil ddiweddaraf yn 2008, ystyriwyd bod 89% o'r deunydd ymchwil a gyflwynwyd naill ai o safon gyda'r orau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Roedd yr ymchwil a gyflwynwyd gan yr ysgol yn cwmpasu eigioneg, bioleg y m么r a daeareg y m么r. Mae ein hymchwil yn cwmpasu ystod eang o bynciau o ecoleg dyfroedd arfordirol i ffiseg y cefnfor ac o hinsawdd y ddaear yn y gorffennol pell i newid hinsawdd yn y dyfodol ac o ddyfroedd arfordirol i'r cefnfor dwfn.
Roedd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Chris Richardson, wrth ei bodd 芒'r newyddion. Meddai: Roedd cyflwyniad "Gwyddorau'r Eigion" i'r REF yn llawer uwch na'r cyfartaledd am brifysgolion yn y sector ac mae ein canlyniadau'n dangos bod ein perfformiad ymchwil yn gwella'n gyflym a'n bod yn parhau i chwarae rhan flaenllaw ym maes gwyddorau'r m么r ac yn cael effaith bwysig yn rhyngwladol ac yn genedlaethol.
"Mae ein hymchwil gyda'r orau yn y byd ac mae'n cael effeithiau gwyddonol pwysig. Mae 90% o'n hymchwil yn cael ei chyfrif gyda'r orau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ei heffaith Mae'r sg么r uchel a ddyfarnwyd i'n hymchwil am ei heffaith ar y gymdeithas yn ehangach yn ganlyniad gwych ac yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ar flaen y gad o ran creu rhagolygon ar gyfer cynhyrchu ynni o'r m么r a physgodfeydd cynaliadwy.
"Gyda chanran boddhad o 92% yng nghanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddar, mae canlyniad REF 2014 yn cadarnhau enw da Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol 亚洲色吧 fel ysgol ragorol yn rhyngwladol lle gall ymchwilwyr a myfyrwyr brofi'r cyfuniad gorau un o ysgol academaidd gyda'r orau yn y byd a phrofiad myfyrwyr gwych".
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014