REF 2014: Ymchwil Coleg yn cael ei hystyried gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol
Mae dros 80% o'r ymchwil a gyflwynwyd gan Goleg y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi cael ei barnu gyda'r orau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn gosod y Coleg yn yr 20 uchaf ymysg prifysgolion y DU mewn tri maes pwnc: Gwyddor yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth ac Iechyd.
Mae cryfder ymchwil yn tyfu'n gyflym yn y Coleg gyda'i sg么r ymchwil wedi cynyddu 20% ers asesiad 2008, y pumed cynnydd mwyaf ym maes Gwyddor yr Amgylchedd mewn unrhyw brifysgol yn y DU.
Elfen neilltuol glodwiw o'r llwyddiant hwn yw'r sg么r a gafodd effaith ymchwil y Coleg ar yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gyda dros 60% o'r achosion yn cael eu rhoi yn y categori uchaf, sef 'gyda'r gorau yn y byd'. Mae'r ymchwil ddylanwadol hon yn cynnwys y canlynol:
- cadwraeth a rheolaeth gynaliadwy pysgodfeydd a mawndiroedd (yn cynnwys defnyddio technegau biolegol uwch)
- rhagweld newid hinsawdd a'i wrthsefyll drwy ddarogan newidiadau yn y cefnforoedd yn well, cynhyrchu ynni o'r m么r ac olion troed carbon cynhyrchion bwyd.
- bridio mathau newydd o reis, india-corn a milet gan wella bywoliaethau ffermwyr a diogelwch bwyd
- biotechnoleg i wella cynhyrchu cynhwysion bwydydd iach.
Trwy ei gynghrair strategol 芒 Phrifysgol Aberystwyth, mae'r Coleg yn awr yn 4ydd yn y DU o ran 'grym ymchwil' (swm ymchwil o ansawdd uchel) mewn Amaethyddiaeth ac yn 14eg ym maes Gwyddor yr Amgylchedd.
Roedd yr Athro Colin Jago, Pennaeth y Coleg, yn hynod falch gyda'r newyddion a gyhoeddwyd heddiw: "Dydi o ddim yn syndod i mi o gwbl i weld y Coleg y Gwyddorau Naturiol yn parhau i ddringo o fewn y sector ym Mhrydain. Mae ein hymchwil yn wir o safon gyda'r orau yn y byd ac, fel y byddai ein myfyrwyr presennol yn barod i dystio, defnyddir yr ymchwil honno i oleuo a chyfoethogi ein dysgu. Mae'r sg么r uchel am effaith a dylanwad ein hymchwil yn arbennig o galonogol, oherwydd yn y Coleg hwn rydym yn ymfalch茂o mewn gwneud ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Ar sail ein canlyniadau cryf iawn yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) yn ddiweddar, lle cawsom ein rhoi yn y deg uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr, rydym yn gweld canlyniadau REF 2014 yn cadarnhau ein safle fel Coleg ac fel prifysgol sy'n cynnig y cyfuniad gorau o ysgolion academaidd gyda'r gorau yn y byd, ynghyd 芒 chynnig profiad gwych i'n myfyrwyr."
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014