Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi cyfleuster ymchwil cenedlaethol newydd ar gyfer uwch-gyfrifiadura
Bydd Uwch-gyfrifiadura Cymru yn galluogi ymchwil wyddonol o'r radd flaenaf ledled y wlad
Mae prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi rhaglen uwch-gyfrifiadura newydd gwerth £15m.
Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd 'Uwch-gyfrifiadura Cymru' yn galluogi'r wlad i gystadlu'n fyd-eang am waith ymchwil ac arloesedd sy'n gofyn am gyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf er mwyn efelychu a datrys problemau gwyddonol cymhleth.
Caiff y rhaglen bum mlynedd ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Phrifysgol Abertawe yn bartneriaid. Bydd y rhaglen yn cael £9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn ogystal â buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan y pedair Prifysgol sy'n bartneriaid.
Bydd Uwch-gyfrifiadura Cymru yn galluogi'r prosiectau gwyddoniaeth ac arloesedd proffil uchel sy'n bodoli eisoes yng Nghymru i gael mynediad at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus. Y nod yw casglu mwy o arian ar gyfer ymchwil, gwneud mwy o bartneriaethau gwyddonol, creu swyddi sy'n gofyn am sgiliau ymchwil uchel a chefnogi cydweithio â phartneriaid diwydiannol ac eraill.
Mae'r rhaglen yn buddsoddi mewn dwy ganolfan uwch-gyfrifiadura wedi'u huwchraddio yng Nghaerdydd ac Abertawe. Bydd yn cyflogi grŵp newydd fydd yn cynnwys o leiaf 13 o Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil i weithio'n agos â thimau ymchwil academaidd. Byddant yn datblygu algorithmau a meddalweddau wedi'u teilwra sy'n manteisio ar bŵer y cyfleusterau uwch-gyfrifiadura er mwyn gwneud sawl tasg gyfrifiadurol ar y cyd ar gyflymder uchel iawn.
Bydd y Grŵp Ffiseg Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn elwa o'r cyfleusterau gwell. Llynedd, cyhoeddwyd ganddynt eu bod wedi canfod y tonnau disgyrchiant cyntaf fel rhan o gonsortiwm LIGO (Laser Interferometer Gravitational-Wave Observatory). Dros y blynyddoedd nesaf, bydd tonnau disgyrchiant yn caniatáu i ymchwilwyr edrych ar graidd ffrwydradau sêr, archwilio strwythur sêr niwtron – ac efallai y gwelwn ffenomena hollol newydd ac annisgwyl a fydd yn herio ein dealltwriaeth bresennol o'r bydysawd.
Bydd Parc Geneteg Cymru sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd hefyd yn manteisio ar y cyfleusterau, gan ei helpu i ddatblygu ei ymchwil arloesol sy'n rhoi dealltwriaeth, diagnosis a thriniaethau i ystod eang o glefydau etifeddol a chanser.
Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd y cyfleusterau yn cefnogi Prosiect 'Bloodhound' – y Prosiect Record Cyflymder ar y Ddaear. Diben y prosiect yw creu car 1,000mya cyntaf y byd – a bydd y cyfleusterau yn cael eu defnyddio i efelychu sut y bydd y car yn ymddwyn wrth deithio ar gyflymder uchel digyffelyb. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn defnyddio'r adnoddau i greu'r wybodaeth sydd ei hangen fyd-eang i ragweld y tywydd a gwella modelau o'r tywydd. Bydd yr algorithmau sy'n cael eu datblygu gan y Brifysgol yn cael eu defnyddio gan Swyddfa Dywydd y DU fel rhan o ragolygon dyddiol y tywydd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddant yn defnyddio'r cyfleusterau er mwyn cefnogi prosiectau ymchwil. Mae'r rhain yn cynnwys dilyniant DNA er mwyn bridio planhigion, a heriau 'Data Mawr' wrth edrych ar y byd. Defnyddir y cyfleusterau er mwyn dadansoddi darluniau lloeren eglur iawn i asesu arwyneb y tir a llystyfiant. Bydd y cyfleusterau ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cefnogi prosiectau ar ynni llanw a phrosiectau eigionegol. Bydd cyfleoedd iddynt hefyd ryngweithio â phrosiectau SEACAMS 2 a ariennir gan ERDF.
Dywedodd yr Athro Roger Whitaker o Brifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Uwch-gyfrifiadura Cymru: "Mae Uwch-gyfrifiadura Cymru yn fuddsoddiad sylweddol sy'n gam mawr ymlaen i Gymru, gan gyfrannu at ba mor gystadleuol ydym ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg ac arloesedd. Bydd y cyfleuster newydd yn cefnogi ceisiadau i wneud ymchwil ar raddfa fawr sy'n dangos lefel yr uchelgais a ofynnir amdani ym mholisi gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Gwyddoniaeth i Gymru. Mae Uwch-gyfrifiadura yn cael ei gydnabod hefyd yn rhan bwysig o strategaeth ddiwydiannol newydd y DU. Bydd y rhaglen fuddsoddi hon yn sicrhau bod gan timau ymchwil ym Mhrifysgolion Cymru fynediad at gyfleusterau i wneud gwaith ymchwil o'r radd flaenaf ac i ddatblygu prosiectau ar y cyd gyda phartneriaeth ddiwydiannol ac eraill."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017