Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn helpu llywodraeth Madagascar i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â hela anifeiliaid gwylltion
Mae hela anifeiliaid gwylltion fel bwyd yn un o'r prif faterion cadwraeth sy'n cael sylw ar draws llawer o'r trofannau. Fodd bynnag, tan yn weddol ddiweddar, nid oedd llawer yn sylweddoli bygythiad yr hela hwn i fywyd gwyllt Madagascar, yn cynnwys ei lemyriaid enwog. Ond, yn dilyn tair blynedd o ymchwil gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gyda’r Malagasy NGO Madagasikara Voakajy (a gyllidir gan llywodraeth Prydain), mae yna lawer mwy o wybodaeth yn awr ar faint y broblem hon a sut y gellir mynd i’r afael â hi.
Mae, uwch ddarlithydd mewn cadwraeth yn , ar ymweliad â Madagascar ar gyfer gweithdy wedi'i drefnu gan broject ar y cyd rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Madagasikara Voakajy i ddatblygu strategaeth genedlaethol i leihau hela rhywogaethau gwarchodedig ym Madagascar. Cynhaliwyd y gweithdy gan Weinyddiaeth yr Amgylchedd llywodraeth Madagascar ac roedd cynrychiolwyr uwch o'r weinyddiaeth yn bresennol, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol, ymchwilwyr a newyddiadurwyr. Hefyd yn bresennol roedd mascot y project, ‘Lenary’, lemwr sy’n dawnsio.
Meddai Dr Jones, "Dros y tair blynedd ddiwethaf mae ein hymchwil wedi dangos lefelau brawychus iawn o hela rhywogaethau gwarchodedig. Rydym wedi ymchwilio i’r rhesymau pam mae pobl yn hela a photensial gwahanol ffyrdd o leihau hela. Daeth yr amser bellach i droi'r ymchwil yn weithredu."
Meddai Julie Razafimanahaka, cyfarwyddwr y Malagasy NGO Madagasikara Voakjy "Rydym yn hynod falch bod y llywodraeth, a’r holl bartneriaid eraill sy’n gweithio ym maes cadwraeth ym Madagascar, wedi cymryd rhan yn y gweithdy. Rydym angen cydweithio i fynd i’r afael â hela anifeiliaid prin a nawr mae gennym strategaeth genedlaethol i'n harwain."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012