Prifysgol 亚洲色吧 yn helpu i ddatblygu dysgu gwyddor cadwraeth ym Mangladesh a Ghana
Mae academyddion ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn gweithio gyda chydweithwyr o Fangladesh a Ghana i gynyddu a gwella dysgu gwyddor cadwraeth yn y ddwy wlad hyn sy鈥檔 gyfoethog o ran bioamrywiaeth. Mae鈥檙 Cyngor Prydeinig wedi cyllido project sy鈥檔 caniat谩u cyfnewidiadau rhwng staff, ymchwilwyr a staff o Brifysgolion ym Mangladesh, Ghana a 亚洲色吧. Ar hyn o bryd mae tri aelod staff o Brifysgol Khulna a Phrifysgol Rajshahi ym Mangladesh, a Phrifysgol Accra yn Ghana, ym Mangor yn cymryd modiwl MSc mewn bioleg cadwraeth ac yn gweithio gyda staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth i ddatblygu cwricwla bioleg cadwraeth ar gyfer eu prifysgolion eu hunain.
Meddai Dr Julia Jones, uwch ddarlithydd mewn cadwraeth ym Mangor:
鈥楻wy鈥檔 gwerthfawrogi鈥檔 fawr cael yr ymwelwyr yn fy nosbarth MSc ac rydym yn dysgu cymaint oddi wrthyn nhw ag y maen nhw鈥檔 ein ddysgu oddi wrthym ni.鈥
Meddai Jesse Ayivor o Brifysgol Accra, Ghana:
鈥楳ae dod ar y cwrs yma ym Mangor wedi bod o fudd eithriadol i mi. Bydd yn fy helpu i ddatblygu cwrs mewn bioleg cadwraeth ar gyfer fy sefydliad yn Ghana鈥.
Meddai Nuzhat Ara o Brifysgol Rajshahi Bangladesh :
鈥淔e wnaeth dosbarthiadau rhyngweithiol fy helpu i weld problemau o safbwynt ehangach a mwy beirniadol.鈥
Mae Sophie Williams, myfyriwr PhD yn yr Ysgol, newydd ddychwelyd o Fangladesh lle treuliodd bythefnos yn dysgu dulliau ymchwil ecolegol i fyfyrwyr MSc yno. Rhoddwyd yr hyfforddiant yn bennaf ar daith faes i Goedwig Fangrof Sundarbans, safle Treftadaeth Byd UNESCO, ac ecosystem sydd dan bwysau cynyddol o ganlyniad i echdynnu adnoddau naturiol a newid hinsawdd. Mae鈥檙 Athro Bidhan Chandra Das o Adran S诺oleg, Prifysgol Rajshahi, yn egluro gwerth y cyfnewid hwn:
鈥楥afodd ymweliad Sophie effaith gadarnhaol iawn ar ein hadran, yn ogystal ag yn ein Cyfadran Gwyddorau Bywyd a Daear. Rhoddodd Sophie gymorth mawr i ni ddatblygu ein cynlluniau i wella dysgu bioleg cadwraeth. Fe wnes i鈥檔 bersonol ddysgu llawer oddi wrthi, yn arbennig y dulliau a ddefnyddiodd i ddysgu鈥檙 myfyrwyr.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2010