Prifysgol 亚洲色吧 yn derbyn dwy wobr Athena SWAN
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn falch iawn i gyhoeddi y bu cais diweddar am wobr Efydd Athena SWAN ar lefel sefydliad yn llwyddiannus. Roedd cais yr Ysgol Gwyddorau Eigion am wobr Efydd ar lefel adrannol hefyd yn llwyddiannus. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymrwymiad y Brifysgol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywiol mewn addysg uwch.
Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at y ceisiadau llwyddiannus hyn!
Dywedodd yr Athro Jo Rycroft-Malone (Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Effaith) a Chadeirydd Gr诺p Gorchwyl Athena SWAN:
"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill gwobr Efydd Sefydliadol Athena SWAN i gydnabod ein gwaith tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym Mangor. Rydym wedi ymrwymo i barhau 芒'n gwaith yn y maes hwn, i ymgorffori cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn ac i weithredu ein gweithgareddau uchelgeisiol ag amlinellir yn ein cynllun gweithredu Athena SWAN. Hoffwn hefyd longyfarch yr Ysgol Gwyddorau Eigion ar eu cais llwyddiannus."
Dywedodd yr Athro David Thomas, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
"Rwy wrth fy modd fod yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi ennill gwobr Efydd Athena Swan. Bu'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn arnom ein hunain a newid y ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Mae staff yn yr Ysgol wedi cymryd rhan frwdfrydig yn y broses ac mae awydd brwd i'r camau gweithredu a nodir cael cymryd effaith. Rydym yn falch iawn, ond gwyddom mai dim ond y dechrau yw cyflawni'r wobr Efydd!"
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor:
"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi derbyn gwobrau Efydd Sefydliadol ac Adrannol. Mae'r gwobrau hyn yn dangos bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn flaenoriaeth sefydliadol a bod gennym ymrwymiad ac ymroddiad ar bob lefel yn y Brifysgol."
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hybu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. Ehangwyd y Siarter yn 2015 i gynnwys pob adran academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Athena SWAN bellach yn cydnabod gwaith a wnaed i fynd i'r afael 芒 chydraddoldeb rhywiol yn ehangach ac mae鈥檙 gwobrau'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, arferion gwaith rhagorol, a'r diwylliant cynhwysol yr ydym yn ei hyrwyddo i staff a myfyrwyr ar bob lefel.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2018