Prifysgol 亚洲色吧 i gynorthwyo i hyfforddi gwyddonwyr pridd y dyfodol
Mae Prifysgol 亚洲色吧 i chwarae rhan allweddol mewn hyfforddi gwyddonwyr y dyfodol a fydd yn gwella'r ffordd rydym yn deall priddoedd. Mae'r rhain yn allweddol i ddatrys llawer o'r sialensiau byd-eang cyfoes, yn cynnwys diogelwch bwyd, d诺r ac ynni.
Dyfarnwyd y cyllid hwn i'r consortiwm Soils Training and Research Studentships (STARS). Prifysgol 亚洲色吧 yw ei gyd-arweinydd gyda Phrifysgol Lancaster. Aelodau eraill y consortiwm yw prifysgolion Cranfield a Nottingham, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Rothamsted Research, yr Arolwg Daearegol Prydeinig a'r James Hutton Institute.
Nod y rhaglen 拢2.3m hon a gyllidir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) yw creu cenhedlaeth newydd o wyddonwyr pridd medrus iawn sy'n deall ecosystem bridd o safbwyntiau amgylcheddol a biolegol.
Bydd y rhaglen yn darparu cyllid i fan leiaf wyth o efrydiaethau bob blwyddyn am dair blynedd. Bydd yn galluogi'r ymchwilwyr i gael yr arbenigedd, offer a hyfforddiant a fydd yn eu helpu i ddelio 芒'r problemau y mae'r diwydiant amaethyddiaeth gynaliadwy yn eu hwynebu wrth iddo ddysgu sut i warchod ei hun rhag newidiadau amgylcheddol.
Mae yna angen ar hyn o bryd am genhedlaeth newydd o wyddonwyr gyda'r sgiliau diweddaraf sy'n gallu deall cymhlethdod ecosystem y pridd a'r rhan y mae'n ei chwarae yn yr amgylchedd ehangach. Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol STARS yn rhoi sylw i hyn drwy ddull gweithredu mwy holistig ac amlddisgyblaethol, gan roi ystod eang o sgiliau a gwybodaeth i ymchwilwyr.
Mae hwn yn un o dri chynllun i'w lansio gan BBSRC a NERC. Mae cyllido rhaglen 'Soil and Rhizosphere Interactions for Sustainable Agri-ecosystems (SARISA) gan Global Food Security, ynghyd 芒 phenodi Cydlynydd Pridd, yn tynnu at ei gilydd sefydliadau sy'n rhannu diddordeb mewn datblygu cenhedlaeth newydd o wyddonwyr medrus iawn.
Meddai Greg Clark, Gweinidog dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth a Dinasoedd:
"Mae datblygu'r partneriaethau cadarn yma rhwng cynghorau ymchwil a'r tri chynllun arloesol newydd a gyhoeddwyd heddiw yn allweddol i roi sylw i sialensiau mawr sy'n wynebu ein cymdeithas, megis bwydo poblogaeth sy'n tyfu'n gyflym. Trwy gydweithio gall y cynghorau ymchwil edrych ar y materion hyn mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan sicrhau bod yr ymchwil ragorol a wneir yng ngwledydd Prydain yn arwain at fanteision economaidd a chymdeithasol amlwg."
Dyma a ddywedodd yr Athro Davey Jones, sy'n arwain ar y project yn yr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn ogystal 芒 bod yn rheolwr hyfforddi'r project:
"Dylid edrych ar bridd fel cynheiliad hanfodol y blaned. Mae'n hollbwysig o ran cynhyrchu ein bwyd ac i'n coedwigoedd, gan gyfrannu at lanhau ein hatmosffer hefyd. Mae llywodraeth Prydain wedi gweld bod angen am fwy o wyddonwyr pridd ac rydym yn eithriadol falch bod Cymru'n cyfrannu at y gwaith pwysig yma."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2014