Pecynnu ein bwydydd heb blastig
Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd.
Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd.
Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.
Un project o'r fath yw addasu technoleg o Gymru i ddarparu pecynnu bwyd cynaliadwy i'r diwydiant bwyd yn Uganda, wedi'i wneud o ddeunyddiau naturiol gwastraff. Amcangyfrifir bod 30-40% o ffrwythau a llysiau Uganda yn cael eu gwastraffu cyn cyrraedd y farchnad, gan nad ydynt wedi cael eu diogelu'n ddigonol. Mae'r gwastraff hwn yn codi i 60% ar gyfer tomatos, ac mae'n cyfrannu at newyn bwyd yn Uganda, lle mae 41% o'r boblogaeth yn dioddef o ddiffyg maeth. Hefyd, mae cleisiau ar fwydydd o'r fath yn cynyddu halogiad sy'n lleihau ansawdd bwydydd a gall arwain at wenwyn bwyd.
Mae arbenigwyr o Prifysgol 亚洲色吧 eisoes wedi datblygu amrywiaeth o ddeunydd pecynnu bwyd wedi'i wneud o laswellt mewn partneriaeth 芒'r archfarchnad Waitrose, sy'n un o ddosbarthwyr bwyd ffres mwyaf y DU. Maent yn awr yn cydweithio 芒 Phrifysgol Makerere, Uganda i weithio gyda thyddynwyr dan arweiniad merched yn Uganda i ddefnyddio gwastraff eu hindia-corn (a elwir yn stof) i greu deunydd pecynnu bwyd bioddiraddadwy.
Bydd defnyddio'r dail, y coesynnau a'r cobynnau a adewir yn y cae ar 么l cynaeafu'r india-corn yn darparu llif incwm newydd i'r tyddynwyr.
Dywedodd Dr. Stephen Lwasa o Goleg Amaethyddiaeth a Gwyddorau Amgylcheddol Prifysgol Makerere:
鈥淢ae鈥檙 bartneriaeth sydd gennym gyda Phrifysgol 亚洲色吧, a phartneriaid eraill, yn defnyddio gwastraff india-corn i gynhyrchu deunyddiau pecynnu yn gyfle cyffrous i鈥檔 ffermwyr a gweithredwyr eraill yn y gadwyn gwerthoedd. Y rheswm am hyn yw y caiff colledion ar 么l y cynhaeaf eu lleihau, bydd ansawdd y cynnyrch yn cael ei sicrhau, a bydd cyfle i farchnata'r deunyddiau a'r cynhyrchion pecynnu hyn mewn marchnadoedd safon uchel yn cynyddu ffrydiau incwm i'r rhai sy'n gysylltiedig.
Galwaf ar bartneriaid y project (NAFICI, Oribags a Musabody) i roi o'u gorau i'r project hwn, a galwaf hefyd am gefnogaeth gan fwy o randdeiliaid i wireddu'r freuddwyd hon."
Mae'r project dichonoldeb Innovate UK a ariennir gan DFID yn cydweithio 芒 dau bartner diwydiannol yn Uganda-Musabody, gwneuthurwr peiriannau amaethyddol ac Oribags, cwmni pecynnu sy'n datblygu a chynhyrchu bagiau pecynnu bioddiraddadwy wedi'u gwneud 芒 llaw a chwmni o'r DU, NER Ltd, cwmni arloesol sydd wedi datblygu prosesau ecogyfeillgar ar gyfer mathru gwellt.
Mae gan Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol 亚洲色吧 dros 30 mlynedd o wybodaeth dechnegol am ddefnyddio dewisiadau amgen a ddatblygwyd o ddeunyddiau crai cynaliadwy yn lle cynhyrchion a chydrannau anadnewyddadwy.
Dywedodd Dr Adam Charlton, Uwch gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Biogyfansoddion y Brifysgol:
鈥淕ellir gweld y blychau wyau gwyrdd a phecynnu bwyd eraill wedi eu mowldio a gynhyrchwyd o'n cysyniad gwreiddiol mewn archfarchnadoedd Waitrose ledled y wlad ac maent wedi cael cryn groeso gan gwsmeriaid.
Mae'r project hwn yn gyfle i rannu ein profiad o ymchwil gydweithredol i helpu bioeconomi Uganda sy'n datblygu i ddatblygu ymhellach. Gall y math hwn o drosglwyddo technoleg arwain at gynhyrchion newydd a fydd, gobeithio, yn creu llif incwm newydd i rai o dyddynwyr amaethyddol Uganda.''
Gweler hefyd:
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019