Pa mor debygol ydyn ni o gael Nadolig gwyn yng Ngogledd Cymru eleni?
Mae鈥檙 Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧 yn asesu鈥檙 tebygolrwydd o fod dan haen o eira dros y Nadolig ac yn ysgrifennu:
鈥淢ae鈥檙 tebygolrwydd o gael Nadolig gwyn eleni yn uwch nag efallai y byddech yn tybio, o ystyried y tymheredd cynnes yr ydym wedi eu profi鈥檔 ddiweddar.
Tra bod ein hinsawdd yn newid fel mae hyd y diwrnod yn newid, gyda llai o oriau o haul yn gwthio鈥檙 tymheredd i lawr yn y gaeaf, o鈥檌 gymharu 芒 gwres yr haf, mae ein tywydd yn llawer mwy cyfnewidiol na hyn, oherwydd lleoliad Prydain ar y ffin rhwng m脿s awyr oer o Begwn y Gogledd a m脿s awyr tymherus cynnes. Yr elfen sy鈥檔 penderfynu p鈥檜n ai鈥檙 aer oer o鈥檙 pegwn sy鈥檔 effeithio ar ein tywydd, neu鈥檙 aer cynnes, yn 么l ei leoliad, yw鈥檙 gwynt a geir ar lefel uchel iawn, sef y jetlif.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae鈥檙 jetlif wedi bod ar linell syth, yn gwthio stormydd ar draws M么r Iwerydd, gyda gaeafau tyner a rhai stormydd trychinebus a llifogydd o ganlyniad.
Fodd bynnag, y gaeaf hwn, mae鈥檙 jetlif yn edrych yn dra gwahanol, ac yn dilyn llwybr troellog. O ganlyniad i symud y jetlif i'r de ac yna i鈥檙 gogledd, mae ein tywydd yn llawer mwy cyfnewidiol, gyda chyfnodau oer iawn fel y cawsom yn ddiweddar yn cael ei ddilyn gan dywydd llawer cynhesach fel yn y dyddiau diwethaf. Mae pob cyfle felly i鈥檙 jetlif grwydro i鈥檙 de eto cyn y Nadolig, gan ddod 芒鈥檙 aer oer o鈥檙 Arctig, a鈥檙 posibilrwydd o eira dros y Nadolig.
Mae鈥檙 amgylchiadau atmosfferig yr ydym yn eu profi ar hyn o bryd yn debyg i鈥檙 rhai a welwyd yng ngaeafau oer iawn 2010/ 2011.
Mae gogledd Cymru鈥檔 dueddol o brofi'r naill begwn neu鈥檙 llall o ran tywydd gaeafol. Mae gwres y gwyntoedd de- orllewinol yn ymchwyddo wrth iddynt fynd dros Fynyddoedd Cambria ac Eryri , drwy yr hyn a elwir yn effaith gwynt 鈥淔ohn鈥. Cofnodwyd tymheredd ucha鈥檙 gaeaf yn y Deyrnas Unedig, sef 18.3 gradd C, yn Aber, ger 亚洲色吧 fis Ionawr 1958 ac eto yn Ionawr 1971. Roedd y tymheredd yn agos i hyn eto noswyl Nadolig y llynedd.
Ar y llaw arall gall y gwyntoedd oer o鈥檙 Arctig sy鈥檔 chwythu o鈥檙 gogledd a鈥檙 dwyrain godi gwlybaniaeth fel y maent yn chwythu dros F么r Iwerddon, ac yna syrthio fel eira dros ogledd Cymru.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2016