Myfyrwyr PhD ADNODD yn ennill gwobrau gan yr Agricultural Economics Society of Ireland.
Cynhaliwyd seminar yr i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yng Ngholeg Prifysgol Dulyn yn ddiweddar. Y myfyrwyr John Walsh a John Hyland o oedd yn cynrychioli Prifysgol 亚洲色吧 yno, ac mae鈥檔 bleser mawr gennym gyhoeddi bod y ddau ohonynt wedi ennill yn eu categor茂au.
Enillodd John Hyland y categori i fyfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf eu doethuriaeth am ei ymchwil ar ganfyddiadau ac agweddau ffermwyr o Gymru tuag at newid hinsawdd. Wrth gyflwyno gwobr John iddo, dywedodd y beirniaid bod ansawdd ac ystod y gwaith a wnaed ganddo ym mlwyddyn gyntaf ei ddoethuriaeth wedi gwneud argraff fawr arnynt a bod ganddo ddyfodol disglair o鈥檌 flaen.
Enillodd John Walsh, sydd newydd orffen trydedd flwyddyn ei ddoethuriaeth, wobr Bob O鈥機onnor am y cyflwyniad gorau yn y seminar. Canmolodd y beirniaid dull eglur a syml John o gyflwyno鈥檙 amrywiol agweddau ar dreuliad anaerobig; gan gyfuno鈥檙 gwahanol ddisgyblaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 dechnoleg ac amlinellu sut gall ei ymchwil fod yn berthnasol i Iwerddon hefyd.
Mae eu llwyddiant yn fwy trawiadol fyth oherwydd mai dyma鈥檙 tro cyntaf erioed i鈥檙 gwobrau hyn gael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn astudio mewn prifysgol y tu allan i Iwerddon.
Fel dywedodd, Dr Rob Brook, Cyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-radd Prifysgol 亚洲色吧, 鈥淢ae鈥檔 newyddion da iawn ac rwy鈥檔 ymuno 芒 gweddill fy nghydweithwyr yn ADNODD wrth longyfarch y ddau ohonyn nhw. Mae鈥檔 wych gweld ein myfyrwyr yn chwifio baner Prifysgol 亚洲色吧 ac mae hwn yn enghraifft wych o bwysigrwydd gwneud ymchwil yn hygyrch i gynulleidfa eang鈥.
Dim ond un o鈥檙 projectau ymchwil a wneir yng ADNODD yw gwaith John Walsh.
Ariannir y ddau fyfyriwr trwy raglen efrydiaethau PhD KESS yr Undeb Ewropeaidd, gyda chyllid ychwanegol gan bartneriaid allanol, sef Fre-Energy (John Walsh) a Hybu Cig Cymru (John Hyland).
Seremoni Gwobrau
Chwith-dde: John Hyland; John Walsh; Dr Michael Wallace (University College Dublin); Ann Derwin, Chief Economist, Department of Agriculture, Fisheries and Food (Ireland); Brendan Riordan (Economist Consultant).
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2012