Myfyrwyr o Brifysgol 亚洲色吧 yn trefnu digwyddiad codi arian i ddathlu bioamrywiaeth a diwylliant Madagascar
Ydych chi erioed wedi bod eisiau cael cyfle i ddod wyneb yn wyneb 芒 lemyriaid rhyfeddol Madagascar? Ydych chi erioed wedi dyfalu sut beth ydi bwyd Malagasaidd? Ydi rhaglenni byd natur wedi eich ysbrydoli i wneud rhywbeth i gefnogi diogelu bywyd gwyllt unigryw Madagascar? Wel, fe gewch gyfle i wneud pob un o'r tri pheth uchod ar 27 Ebrill, pan gynhelir digwyddiad arbennig yn Sw Genedlaethol Cymru ym Mae Colwyn, wedi'i drefnu gan staff a myfyrwyr o Brifysgol 亚洲色吧.
Bwriad y digwyddiad yw codi arian i gefnogi gwaith cadwriaethol yr elusen Madagasikara Voakajy, sy'n gweithio gyda chymunedau yng nghoedwig Mangabe (sydd newydd ei dynodi'n ardal warchodaeth) i fynd i'r afael 芒 hela anifeiliaid y goedwig am eu cig, a datgoedwigo. Mae gan Brifysgol 亚洲色吧 gysylltiad cadarn 芒 Madagasikara Voakajy. Mae staff o'r elusen fechan, ond effeithiol, hon wedi cael hyfforddiant arbenigol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac mae staff a myfyrwyr o'r Brifysgol wedi gweithio'n agos gyda hwy yn y maes ym Madagascar.
Yn ogystal 芒 chyfle i gyfarfod 芒'r gr诺p o lemyriaid sydd yn y sw, bydd y noson yn cynnwys pryd bwyd Malagasaidd, cerddoriaeth a dawnsio. Hefyd ceir cyflwyniadau gan: Dr Julia Jones, (Uwch Ddarlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧) a Voahirana Randriammonjy (aelod o staff Madagasikara Voakajy sy'n fyfyriwr gradd meistr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ar hyn o bryd). Meddai Voahirana, "Dwi wrth fy modd efo'r cyfle yma i gyflwyno tipyn o fioamrywiaeth a diwylliant fy ngwlad i bobl yng Nghymru a chodi arian yr un pryd at yr achos teilwng yma. Mae ychydig o arian yn gwneud gwahaniaeth mawr ym Madagascar, felly bydd yr hyn wnawn ei gasglu'n gwneud gwahaniaeth o bwys."
Bydd yr elusen Maint Cymru yn rhoi cyfraniad cyfatebol i'r holl arian a gesglir, ac maent wedi mynd dros eu targed i ddiogelu ardal o goedwig law o faint Cymru. Pris tocynnau yw 拢10 i oedolion ac 拢8 gostyngiadau. Mae pris tocyn yn cynnwys mynediad i'r sw, bwyd ac adloniant. Gellir prynu tocynnau o'r neu drwy gysylltu 芒 Jennifer McDonald <jen@welshmountainzoo.org neu 芒 Julia Jones julia.jones@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013