Meintioli cost amgylcheddol pysgota ar wely'r m么r
Mae treillio yn cyfrannu 20% at y cyfanswm o bysgod a g芒nt eu dal yn y m么r yn fyd-eang, felly mae'n ddull hanfodol o ddarparu bwyd i filiynau o bobl.
Defnyddir treillio gwely'r m么r i ddal pysgod a physgod cregyn sy'n byw yng ngwely'r m么r neu'n agos ato. Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae treillio gwely'r m么r yn achosi newid ffisegol a biolegol amrywiol i gynefinoedd gwely'r m么r a gall arwain at newidiadau strwythurol a gweithredol yng nghymunedau gwely'r m么r. Mae deall y canlyniadau o dreillio yn bwysig er mwyn i ni allu lleihau effeithiau negyddol ar wely'r m么r drwy fesurau rheoli priodol.
Cynhaliwyd o effeithiau treillio gwely'r m么r gan wyddonwyr yn cydweithio'n rhyngwladol, i amcangyfrif cyfraddau disbyddu ac adfer biota gwely'r m么r yn dilyn treillio. Gallai'r ymchwilwyr feintioli'r berthynas rhwng y gostyngiad mewn anifeiliaid ar wely'r m么r a threiddiad cyfarpar pysgota i wely'r m么r.
Dywedodd yr awdur arweiniol, yr Athro Jan Hiddink o Ysgol Gwyddorau Eigion Brifysgol 亚洲色吧:
"Canfuom fod treillrwydi 'dyfrgi' yn treiddio i wely'r m么r 2.4 cm ar gyfartaledd ac yn achosi'r lleiaf o ddisbyddu organebau m么r, gan symud 6% o'r biota fesul treilliad o wely'r m么r. "Canfuom ar y llaw arall fod treillio hydrolig yn treiddio i wely'r m么r 16.1 cm ar gyfartaledd ac yn achosi'r mwyaf o ddisbyddu, gan symud 41% o'r biota fesul treilliad.
Gan ddibynnu ar y math o gyfarpar pysgota, dyfnder y treiddiad, a newidynnau amgylcheddol megis dyfnder y d诺r a chyfansoddiad y gwaddod, roedd yr amseroedd adfer i fiota gwely'r m么r yn amrywio o 1.9 i 6.4 blynedd.
Dywedodd yr Athro Ray Hilborn o Brifysgol Washington, Seattle a arweiniodd y project cydweithio gyda'r Athro Michel Kaiser (Prifysgol 亚洲色吧) a'r Athro Simon Jennings (Cyngor Rhyngwladol Fforio'r M么r, Denmarc:
"Mae'r canfyddiadau hyn yn llenwi bwlch gwyddonol hanfodol a fydd yn llywio strategaethau polisi a rheoli arferion pysgota cynaliadwy drwy ein galluogi i gloriannu'r cydbwysedd rhwng cynnyrch pysgod ar gyfer bwyd a'r gost amgylcheddol o wahanol dechnegau cynaeafu."
Ychwanegodd:
"Mae angen i ni weld y canlyniadau hyn yng ngoleuni 么l-troed pob un o'r gweithgareddau; treillio 'dyfrgi' sy'n cael yr effaith leiaf fesul treilliad, ond dyma'r math o gyfarpar pysgota a ddefnyddir yn fwyaf eang ac felly mae ei effeithiau'n fwy cyffredin nag effeithiau cyfarpar pysgota mwy arbenigol megis treillio hydrolig."
Ychwanegodd yr Athro Michel Kaiser:
"Mae m芒n-werthwyr a phroseswyr bwyd m么r yn arbennig o bryderus am ganfyddiad y cyhoedd o dreillio gwely'r m么r, felly mae'r ymchwil hon yn ddatblygiad hollbwysig o ran ein galluogi i ddeall yr hyn a ellir eu hystyried yn feintiau derbyniol o weithgaredd treillio mewn gwahanol gynefinoedd gwely m么r, ac i'w haddasu i lefelau cynaliadwy pan fo angen."
Dywedodd Dr David Agnew, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Safonau'r Cyngor Stiwardiaeth Forol:
"Mae'r ymchwil hon wedi golygu bod ein dealltwriaeth o sut i fesur effaith pysgodfeydd treillio ar wely'r m么r wedi datblygu'n sylweddol. Rwy鈥檔 edrych ymlaen i'r canlyniadau hyn gael eu defnyddio mewn project ymchwil sydd ar y gweill gyda Phrifysgol 亚洲色吧, ac yn fwy eang i gynorthwyo pysgodfeydd wrth iddynt weithio i gwrdd 芒 safon y Cyngor Stiwardiaeth Forol ar gyfer pysgota cynaliadwy."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017