Medal Polar i wyddonydd o Brifysgol 亚洲色吧
Mae’r Athro David N. Thomas, Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol 亚洲色吧, wedi derbyn Medal Polar gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Cyhoeddwyd y wobr yn The London Gazette 28 Ionawr 2022.
Dyfernir y Medal Polar i ddinasyddion Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon sydd wedi gwneud cyfraniadau amlwg yn bersonol i wybodaeth am ranbarthau’r polar neu sydd wedi rhoi gwasanaeth hir o ansawdd rhagorol i gefnogi caffael gwybodaeth o'r fath.
Meddai’r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor - Ymchwil ac Arloesi a Phennaeth Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg:
“Dyma gydnabyddiaeth amserol a haeddiannol o’r blynyddoedd lawer o arweinyddiaeth, ymdrech a rhagoriaeth ymchwil y mae David wedi’u cyflawni, yn ffigurol, ar ddau begwn y Ddaear. Yn sicr mae ei waith wedi helpu i dynnu sylw at swyddogaeth bwysig rhanbarthau’r Arctig mewn cyd-destun newid hinsawdd.”
Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o ymchwil ac arweinyddiaeth David yn yr Arctig a'r Antarctig, lle mae wedi gwneud llawer i wella ein dealltwriaeth am ecoleg a chemeg yr ardaloedd o rew môr yn arnofio sy’n gyffredin yng nghefnforoedd yr Antarctig a'r Arctig. Dechreuodd ei ymchwil polar yn y 1990au cynnar yn Sefydliad Alfred Wegener yn Bremerhaven. Gwnaeth David y rhan fwyaf o’i ymchwil maes yn ystod y 24 mlynedd y bu David mewn swyddi academaidd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 (1996 i 2020). Yn 2020 symudodd i Brifysgol Helsinki lle mae’n parhau â’i Ymchwil Arctig fel Athro Ymchwil Ecosystemau’r Arctig.”
Yn y blynyddoedd diwethaf mae David wedi helpu i arwain dwy raglen ymchwil fawr yn y DU ar gyfer Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC). Ymchwiliodd y ddau i’r newidiadau amgylcheddol mawr sy’n digwydd yn yr Arctig o ganlyniad i newid hinsawdd: Rhaglen Ymchwil yr Arctig gwerth £15 miliwn (2010-2016) a Rhaglen Newid Cefnfor yr Arctig gwerth £20 miliwn (2015-2021). Roedd yr olaf mewn cydweithrediad â Gweinyddiaeth Addysg ac Ymchwil Ffederal yr Almaen (BMBF).
Mae’r wobr ddiweddaraf hon yn dilyn dyfarniad Llywodraeth Tiriogaeth Antarctig Prydain yn 2020 a enwodd rewlif yr Antarctig, Rhewlif Thomas (Palmer Land, Penrhyn Antarctig), i gydnabod agweddau Antarctig ei waith.
Medal yr Arctig oedd y medal polar cyntaf i gael ei sefydlu yn y DU ym 1857. Ym 1904 cafodd ei ailenwi’n Fedal Polar ac mae wedi’i dyfarnu i rai o’r fforwyr a’r gwyddonwyr mwyaf adnabyddus yn y DU sy’n gweithio yn rhanbarthau’r Arctig a’r Antarctig: Gan gynnwys aelodau o alldaith Syr Ernest Shackleton ym 1907-09 a 1914-17, yn ogystal ag aelodau o Alldaith Terra Nova Capten Scott i Begwn y De ym 1910-1913.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2022