Mae'r llen i芒 yn toddi ac yn cael effaith fyd-eang ar lanw'r m么r
Caiff ei dderbyn yn eang fod lefel y m么r yn codi oherwydd bod y llenni i芒 enfawr sy'n gorchuddio'r Ynys Las ac Antarctica yn toddi, ond mae papur sydd newydd ei gyhoeddi yn The Journal of Geophysical Research: Oceans, (), gan wyddonwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ar y cyd 芒 phrifysgolion Harvard ac Oregon State yn yr Unol Daleithiau, a phrifysgol McGill yng Nghanada, yn dangos y bydd hynny'n cael effaith lawer iawn mwy na dim ond achosi newid yn lefelau d诺r y m么r. Gallai gael effaith bellgyrhaeddol ar hinsawdd y byd.
Mae'r canlyniadau newydd yn dangos nad yw lefel y m么r yn codi i鈥檙 un graddau ym mhob man ar draws y ddaear wrth i'r llenni i芒 doddi. Mewn gwirionedd, mae'r newid yn lefel y m么r wrth i'r llenni i芒 doddi yn amrywio yn 么l ardal, yn enwedig yn agos at y llenni i芒 sy'n encilio. Mae'r canlyniadau newydd, a gafwyd yn defnyddio model rhifiadol o'r llanw yn fyd-eang, yn dangos y bydd y newidiadau i'r llanw oherwydd cwymp y llen i芒 a'r newidiadau yn lefel y m么r sy'n gysylltiedig 芒 hynny yn amrywiol iawn ac yn effeithio ar nifer o wahanol brosesau pwysig.
Ar hyd rhai arfordiroedd bydd amrediad y llanw yn llawer mwy, er enghraifft ar hyd arfordir gogledd Cymru, tra bydd amrediad y llanw ar hyd arfordiroedd eraill megis arfordir de Cymru yn llawer llai. At hynny bydd nifer o swyddogaethau'r moroedd yn cael eu newid gan newidiadau i'r llanw.
Eglurodd y prif awdur, Dr Sophie-Berenice Wilmes, a oedd yn fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
"Mae'r llanw yn chwarae rhan allweddol ar hyn o bryd wrth gynnal cerhyntau enfawr y moroedd sy'n ailddosbarthu gwres o'r trofannau i ledredau uwch. Dyma sydd i gyfri am hinsawdd gymedrol y Deyrnas Unedig. Mae'r rhagolygon a gafwyd gan y model newydd yn dangos y bydd cwymp y llen i芒 yn effeithio'n fawr ar y llanw yn fyd-eang ac y gallai hynny yn ei dro effeithio ar systemau cerrynt y m么r sydd mor bwysig ar gyfer ein hinsawdd ni.
Bydd y newidiadau byd-eang i'r llanw hefyd yn cael effaith sylweddol ar nifer fawr o swyddogaethau eraill y m么r, megis achosi newidiadau i'r rhannau hynny o'r m么r sy'n amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer, a chael effaith ar ecosystemau morol y sgafelli tymherus sy'n amgylchynu鈥檙 cyfandiroedd."
Dwedodd y cyd-awdur, Dr Natalya Gomez o Brifysgol McGill: "Byddai diflaniad y llen i芒 pegynol wrth i'r hinsawdd gynhesu yn cynrychioli newid sylweddol i system y Ddaear, a dim ond dechrau deall goblygiadau hynny ydym ni."
Dwedodd goruchwyliwr y project, Dr Mattias Green o'r Ysgol Gwyddorau Eigion:
"Mae'r canlyniadau newydd yn amlygu pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i'r newidiadau yn y llanw, sy'n digwydd oherwydd newidiadau i lefel y m么r mewn ymateb i golli'r llen i芒, wrth ragfynegi hinsawdd y dyfodol ac wrth ail-lunio hinsawdd fyd-eang y gorffennol."
Ariannwyd PhD Sophie Wilmes gan Fujitsu a Chyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru, a bellach mae'n gweithio i brifysgol Oregon State. Gwnaed yr ymchwil gyda Mattias Green a Tom Rippeth yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 亚洲色吧, a Natalya Gomez ym mhrifysgol McGill a Harriet Lau ym mhrifysgol Harvard.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2017