Mae gwledydd cyfoethog yn cyfrannu llai tuag at warchod bywyd gwyllt na gweddill y byd
Mae rhai gwledydd yn fwy ymrwymedig i gadwraeth nag eraill, yn 么l project ymchwil cydweithredol newydd gyda Phrifysgol 亚洲色吧
Mewn partneriaeth 芒 Panthera, yr unig sefydliad sy'n ymroddedig i warchod cathod gwyllt, mae ymchwilwyr o Brifysgol 亚洲色吧 wedi asesu pa mor fawr neu fach yw cyfraniad gwledydd unigol at warchod bywyd gwyllt y byd. O鈥檌 gymharu 芒'r byd datblygedig, mwy cefnog mae bioamrywiaeth yn flaenoriaeth uwch mewn rhanbarthau tlotach megis Affrica, ac mae eu gwledydd yn cyfrannu mwy at gadwraeth nag unrhyw ranbarth arall.
Dan arweiniad Cysylltai Ymchwil Panthera, Dr Peter Lindsey, creodd y t卯m Fynegai Cadwraeth Anifeiliaid Mawr (MCI) i werthuso ymdrech cadwraeth 152 o wledydd o bob cwr o鈥檙 byd. Gan fod cyfran uchel o rywogaethau anifeiliaid mawr, megis teigrod, llewpardiaid a gorilaod yn wynebu difodiant, canolbwyntiodd y t卯m eu hymchwil ar amddiffyn mamaliaid mawr. Defnyddiwyd system feincnodi i werthuso dri mesur allweddol: a) y gyfran o'r wlad a feddiennir gan bob un o鈥檙 rhywogaethau anifeiliaid mawr sy'n goroesi yn y wlad (mae gwledydd gyda mwy o rywogaethau sydd yn byw ar draws cyfran uwch o'r wlad yn sgorio'n uwch); b) y gyfran o rywogaethau anifeiliaid mawr sy'n cael ei gwarchod (rhoddir sg么r uwch am gyfran uwch); c) faint o arian sy鈥檔 cael ei wario ar gadwraeth - naill ai gartref neu yn rhyngwladol, mewn perthynas 芒 CMC.
Fel yr adroddwyd heddiw yn The Economist, datgelodd y canfyddiadau fod gwledydd tlotach yn mynd ati鈥檔 fwy gweithredol i ddiogelu bioamrywiaeth na'r cenhedloedd cyfoethocach. Mae 90 y cant o wledydd Gogledd a Chanolbarth America a 70 y cant o wledydd Affrica yn cael eu dosbarthu fel gwledydd o bwys neu well na'r cyfartaledd yn eu hymdrechion i warchod anifeiliaid mawr.
Er bod y cyfandir yn wynebu nifer o heriau, megis tlodi ac ansefydlogrwydd gwleidyddol mewn sawl rhanbarth, gwelwyd bod Affrica yn blaenoriaethu cadwraeth bywyd gwyllt, ac yn cyfrannu mwy at gadwraeth nag unrhyw ranbarth arall yn y byd, gyda Botswana, Namibia, Tanzania a Zimbabwe ar frig y rhestr. Cafwyd pedair o'r pum gwlad oedd yn gwneud orau o ran gwarchod anifeiliaid mawr yng nghyfandir Affrica. Ar y llaw arall gosodwyd yr Unol Daleithiau yn y pedwerydd safle ar bymtheg allan o'r ugain gwlad oedd yn perfformio鈥檔 dda a gwelwyd bod tua chwarter o'r gwledydd yn Asia ac Ewrop yn tanberfformio鈥檔 sylweddol yn eu hymrwymiad i warchod anifeiliaid mawr.
Dywedodd Dr Peter Lindsey, "Mae lliaws o rywogaethau ledled y byd, gan gynnwys teigrod, llewod a rhinos, ar ddibyn difodiant oherwydd llu o fygythiadau trychinebus o du鈥檙 ddynoliaeth. Ni allwn anwybyddu'r ffaith y byddwn yn colli鈥檙 rhywogaethau anhygoel yma am byth oni bai bod camau cadwraeth gyflym ac ymosodol yn cael eu cymryd gan yr hil ddynol, yn awr a gyda鈥檔 gilydd. Mewn ymateb i'r argyfwng cadwraeth enfawr ar ein planed, mae'r astudiaeth hon yn gofyn am atebolrwydd gan bob gwlad ym mhob cwr o'r byd i ysgwyddo鈥檙 cyfrifoldeb ac achub bywyd gwyllt mawr carismatig ein planed cyn iddi fynd yn rhy hwyr.鈥
Mae effaith ddynol wedi cael ac yn parhau i gael effaith ddinistriol ar y byd naturiol, gyda rhywogaethau bywyd gwyllt ar draws y byd o dan fygythiad o du potsio, hela a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod 59 y cant o gigysyddion mwyaf y byd a 60 y cant o'r llysysyddion mwyaf mewn perygl o ddifodiant.
Dywedodd yr Athro David Macdonald, Cyfarwyddwr WildCRU Prifysgol Rhydychen a chyd-awdur y papur: 'Dylai pob gwlad ymdrechu i wneud mwy i ddiogelu ei bywyd gwyllt. Mae ein mynegai yn rhoi mesur o ba mor dda y mae pob gwlad yn gwneud, ac yn gosod meincnod ar gyfer gwledydd sy'n perfformio yn is na'r lefel gyfartalog, i ddeall y math o gyfraniadau mae angen iddynt eu gwneud fel isafswm. Mae achos cryf dros gael gwledydd lle mae rhywogaethau anifeiliaid mawr wedi cael eu herlid yn hanesyddol, i gynorthwyo tuag at eu hadfer. '
Dywedodd Dr Matt Hayward, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol 亚洲色吧 a chyd-awdur y papur: 'Mae ein mynegai yn cynnig mesur gwerthfawr ac ailadroddadwy i alluogi gwledydd i fuddsoddi mewn bioamrywiaeth mewn ffordd decach drwy wella dosbarthiad bywyd gwyllt, drwy wella rhwydweithiau ardaloedd wedi eu diogelu, a / neu drwy fuddsoddi mwy mewn cadwraeth gartref neu dramor'.
Yn ogystal 芒 thynnu sylw at y gwahaniaeth mewn cyfraniadau gan wahanol ranbarthau i gadwraeth, mae'r astudiaeth hefyd yn gwneud rhywfaint i esbonio pam mae hyn yn digwydd. Mae rhywogaethau anifeiliaid mawr yn gysylltiedig 芒 'gwerthoedd bodolaeth' cryf, lle mae pobl yn teimlo鈥檔 hapus dim ond o wybod bod anifeiliaid gwyllt mawr yn bodoli. Mewn rhai achosion, megis gwledydd Affrica, mae鈥檙 cysylltiad hwn yn egluro pam mae rhai gwledydd yn ymwneud yn fwy 芒 chadwraeth nag eraill. Mae rhywogaethau mamaliaid mwy fel cathod gwyllt, gorilaod ac eliffantod yn chwarae rhan allweddol yn y prosesau ecolegol yn ogystal 芒 diwydiannau twristiaeth, sy'n cynnig gwaredigaeth economaidd mewn rhanbarthau tlotach.
Bwriad y mynegai cadwraeth anifeiliaid mawr yw galw ar y byd i weithredu i gydnabod eu cyfrifoldeb i ddiogelu bywyd gwyllt. Drwy dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng cyfraniadau pob gwlad i gadwraeth y gobaith yw y bydd yn arwain at fwy o ymdrech ac ymrwymiad o'r newydd i warchod bioamrywiaeth.
Wrth drafod sut y gall gwledydd wella eu sgoriau MCI, dywedodd Dr Peter Lindsey: 鈥淢ae tair ffordd. Gallant 'ail-wylltio鈥 eu tirweddau drwy ailgyflwyno anifeiliaid mawr a / neu drwy ganiat谩u i rywogaethau o'r fath feddiannu ardaloedd ehangach. Gallant neilltuo mwy o dir fel ardaloedd sy鈥檔 cael eu gwarchod yn llym. A gallant fuddsoddi mwy mewn cadwraeth, naill ai gartref neu dramor.
Yn Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio ym 1992, gwnaeth gwledydd datblygedig addo neilltuo o leiaf $ 2 biliwn (doleri UDA) y flwyddyn tuag at gadwraeth mewn gwledydd sy'n datblygu. Er hynny, mae cyfraniadau cadwraeth presennol gan wledydd datblygedig yn ddim ond hanner y swm arfaethedig, sef, $ 1.1 biliwn (doleri UDA) y flwyddyn.
Wrth drafod sut cafodd y sgoriau eu cyfrif ychwanegodd yr Athro Macdonald: 鈥淢ae'r gwledydd hyn wedi ennill sgoriau uchel mewn amrywiaeth o ffyrdd - rhai drwy neilltuo rhwydweithiau ardal anferth sydd wedi eu diogelu, eraill drwy ganiat谩u i rywogaethau anifeiliaid mawr feddiannu rhannau mawr o鈥檜 tirwedd, ac eraill drwy fuddsoddi cyllid sylweddol mewn cadwraeth naill ai gartref neu yn rhyngwladol. Un datblygiad cyffrous oedd bod y cylchgrawn The Economist wedi adrodd am fynegai MCI eleni a鈥檔 gobaith ni yw y bydd hyn yn cael ei wneud bob blwyddyn er mwyn darparu meincnod cyhoeddus ar gyfer ymrwymiad i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mwyaf, ac, yn 么l rhai, mwyaf carismatig y byd. Mae'r ffordd y mae'r mynegai wedi ei strwythuro yn golygu wrth i wledydd y byd wneud mwy, bydd y meincnod cyfartalog yn codi gan annog tanberfformwyr i ymdrechu'n galetach.
I gloi dywedodd yr Athro William Ripple, Cyd-awdur ac Athro ym Mhrifysgol Talaith Oregon: 鈥淢ae'r Mynegai Cadwraeth anifeiliaid mawr yn gam cyntaf pwysig tuag at dryloywder 鈥 mae rhai o wledydd tlotaf y byd yn gwneud y buddsoddiadau mwyaf mewn ased byd-eang a dylid eu llongyfarch, ond nid yw rhai o'r gwledydd cyfoethocaf yn gwneud digon.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017