Mae ffermio 'cynnyrch uchel' yn gwneud llai o niwed i'r amgylchedd nag a dybid o'r blaen - a gallai helpu arbed cynefinoedd
Mae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib mai amaethyddiaeth ddwys yw'r dewis "lleiaf drwg" lle mae bwydo'r byd yn y cwestiwn ac mi allai arbed rhywogaethau - mae systemau sy'n gwneud defnydd effeithlon o'r tir yn fodd i atal trawsnewid tir gwyllt yn dir ffermio.
Mae'n bosib bod amaethyddiaeth sy'n fwy eco-gyfeillgar yr olwg ond sy'n defnyddio mwy o dir yn peri mwy o niwed amgylcheddol fesul pob uned fwyd na ffermio "cynnyrch uchel" sy'n defnyddio llai o dir, yn 么l canfyddiadau astudiaeth newydd.
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos mai'r ffordd orau o ateb y galw cynyddol am fwyd a diogelu bioamrywiaeth yr un pryd yw sicrhau cymaint o fwyd ag sy'n bosib yn gynaliadwy o'r tir rydym yn ei ffermio ar hyn o bryd, ac "arbed y cynefinoedd naturiol rhag yr arad".
Fodd bynnag, mae hynny'n cynnwys technegau ffermio dwys y tybid eu bod yn creu llygredd mawr, prinder d诺r ac erydu'r pridd. Mae'r astudiaeth a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn y cylchgrawn Nature Sustainability yn dangos nad yw hynny'n wir o reidrwydd.
Mae gwyddonwyr wedi llunio mesurau ar gyfer rhai o'r "allanoldebau" mawr - megis allyriadau nwyon t欧 gwydr neu ddefnydd d诺r - a ddaw gyda systemau ffermio cynnyrch uchel-ac-isel ac maen nhw wedi cymharu costau amgylcheddol cynhyrchu swmp penodol o fwyd mewn gwahanol ffyrdd.
Cymharu'r costau yn 么l arwynebedd y tir a wnaed yn y gorffennol. Oherwydd bod ffermio cynnyrch uchel angen llai o dir i gynhyrchu'r un faint o fwyd, mae awduron yr astudiaeth yn dweud bod amcan rhy uchel wedi ei fwrw o effaith amgylcheddol y dull hwnnw.
Mae'r canlyniadau o bedwar sector ffermio mawr yn awgrymu, yn groes i ganfyddiadau llawer o bobl, fod amaethyddiaeth fwy dwys sy'n defnyddio llai o dir hefyd yn cynhyrchu llai o lygredd, yn colli llai o bridd ac yn defnyddio llai o dd诺r.
Fodd bynnag, mae'r t卯m a wnaeth yr astudiaeth, o dan arweiniad gwyddonwyr o Brifysgol Caergrawnt, yn rhybuddio pe bai cynnyrch uwch yn cael ei ddefnyddio dim ond i gynyddu elw neu ostwng prisiau, byddai hynny'n cyflymu'r argyfwng sydd eisoes ar ein gwarthaf o ran diflaniad rhywogaethau.
"Amaethyddiaeth sydd bennaf cyfrifol am golli bioamrywiaeth ar y blaned," meddai awdur arweiniol yr astudiaeth, Andrew Balmford, Athro Gwyddor Cadwraeth Adran S诺oleg Caergrawnt. "Maen nhw'n dal i glirio cynefinoedd ar gyfer tir ffermio, a gadael llai fyth o le ar gyfer bywyd gwyllt."
"Mae ein canlyniadau ni'n awgrymu y gellid defnyddio ffermio cynnyrch uchel i ateb y galw cynyddol am fwyd heb ddinistrio mwy o'r byd naturiol. Fodd bynnag, os ydym am warchod rhag difodiant enfawr, mae'n hollbwysig bod amaethyddiaeth yn defnyddio'r tir yn effeithlon a bod llai o dir gwyllt yn mynd o dan yr arad."
Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan d卯m o wyddonwyr rhyngwladol, gan gynnwys Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Ychwanegodd yr Athro Dave Chadwick "Mae'r astudiaeth hon yn dangos pa mor bwysig yw ystyried posibiliadau gwahanol lle mae defnydd tir yn y cwestiwn i gyflawni'r amrywiol nwyddau cyhoeddus sydd eu hangen ar gymdeithas.
Yn y gorffennol, beirniadwyd ffermio cynnyrch uchel oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd. Ond mae ffermio cynnyrch uchel sy'n mabwysiadu technolegau newydd a'r arferion rheoli gorau i wella effeithlonrwydd o ran defnyddio adnoddau a lleihau 么l troed amgylcheddol y cynhyrchu'n golygu y bydd angen llai o dir i gynhyrchu'r un faint o fwyd, gan arbed tir er mwyn ei reoli'n fanteisiol, er enghraifft i ddiogelu a chynyddu stociau carbon y pridd, neu wella cynefinoedd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid.
Ni wnaiff y dull arall o 'rannu'r tir', lle mae disgwyl i ffermwyr gynhyrchu mwy o fwyd i fwydo mwy o bobl, yn ogystal 芒 darparu gwasanaethau eraill o ran yr ecosystemau ar yr un tir, gyflawni'r canlyniadau hynny'n gyfartal.
Er bod lle amlwg i gymdeithas fynd ati i ystyried yr hyn y mae'n ei fwyta a lleihau gwastraff bwyd er mwyn lleihau'r galw i gynhyrchu bwyd, mae angen dal ati i archwilio'r holl strategaethau defnydd tir a allai ateb anghenion lu cymdeithas. Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn cyfrannu at y ddadl bwysig hon ynghylch defnydd tir".
Dadansoddodd yr astudiaeth wybodaeth o gannoedd o ymchwiliadau i bedwar sector bwyd enfawr, sy'n cwmpasu canrannau mawr o allbwn y byd ar gyfer pob cynnyrch: Reis Padi o Asia (90%), gwenith o Ewrop (33%), cig eidion o America Ladin (23%), a llaeth o Ewrop (53%).
Ymhlith yr enghreifftiau o strategaethau cynnyrch uchel mae gwahanol fridiau porfa a da byw o ran cynhyrchu cig eidion, defnyddio gwrtaith cemegol ar gnydau, a chadw gwartheg llaeth dan do am yn hirach.
Cafodd y gwyddonwyr fod prinder data, a bod angen gwneud mwy o ymchwil ar fyrder ynghylch costau amgylcheddol gwahanol fathau o ffermio.
Serch hynny, mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad yw llawer o'r systemau cynnyrch uchel a oedd yn cael eu hystyried yn fwy niweidiol i'r amgylchedd yn niweidiol wedi'r cwbl - a'u bod nhw'n defnyddio llawer llai o dir.
Er enghraifft, fesul pob uned reis, roedd nitrogen anorganig yn hwb i gynnyrch heb ddim neu bron dim "cosb" o ran nwyon t欧 gwydr a defnyddid llai o dd诺r. Fesul pob tunnell o gig eidion, canfu'r t卯m fod allyriadau nwyon t欧 gwydr yn haneru mewn rhai systemau cynnyrch uchel o ychwanegu coed.
Mi astudiodd y t卯m ffermio organig yn unig o ran ffermio llaeth yn Ewrop, ond canfuwyd - ar gyfer yr un faint o laeth - bod y systemau hynny'n achosi o leiaf traean yn fwy o golled o ran y pridd, a bod angen dwywaith yn fwy o dir, na ffermio llaeth confensiynol.
Mae awduron yr astudiaeth yn dweud y dylid cyfuno ffermio cynnyrch uchel 芒 dulliau sy'n cyfyngu ar ehangu amaethyddol os ydym am sicrhau budd amgylcheddol. Gallai'r rhain gynnwys pennu parthau llym ar gyfer defnydd tir ac ail-lunio'r cymorthdaliadau gwledig.
"Mae'r canlyniadau yma'n ychwanegu at y dystiolaeth sydd mai arbed cynefinoedd naturiol trwy ddefnyddio dulliau ffermio cynnyrch uchel i gynhyrchu bwyd yw'r dull lleiaf drwg at y dyfodol," meddai Balmford.
"Lle bo amaethyddiaeth yn cael cymorthdaliadau mawr, gallai taliadau cyhoeddus fod yn amodol ar gynnyrch uchel o ran bwyd o dir sydd eisoes yn cael ei ffermio, a diogelu tiroedd eraill rhag cael eu ffermio a'u hadfer fel cynefinoedd naturiol, ar gyfer bywyd gwyllt a storio carbon neu dd诺r llifogydd."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2018