Mae data cydraniad uchel yn cynnig y lluniau manylaf erioed o ôl troed pysgota treillio ledled y byd
Daw tua chwarter o fwyd môr y byd sy'n cael ei ddal yn y cefnfor o dreillio'r gwaelod, dull sy'n golygu tynnu rhwyd ​​ar hyd gwely'r môr ar silffoedd a llethrau cyfandirol i ddal berdys, penfras, pysgod creigiog, lledod chwithig a mathau eraill o bysgod a physgod cregyn sy'n byw ar waelod y môr. Mae'r dechneg yn effeithio ar ecosystemau gwely'r môr, mae'r rhwydi'n gallu lladd neu darfu ar fywyd a chynefinoedd morol eraill yn anfwriadol.
Mae gwyddonwyr yn cytuno y gall treillio helaeth ar waelod y môr effeithio'n ddirfawr ar yr ecosystemau morol, ond anodd iawn oedd ateb y cwestiwn tyngedfennol - sef faint o'r arwynebedd, neu'r ôl troed, sy'n cael ei dreillio ledled y byd.
Mae dadansoddiad newydd sy'n defnyddio data cydraniad uchel ar gyfer 24 o ranbarthau'r môr yn Affrica, Ewrop, Gogledd a De America ac Awstralasia yn dangos mai dim ond 14 y cant o lawr cyffredinol y môr sy'n fasach na 1,000 metr (3,280 troedfedd) sy'n cael ei dreillio. Mae'r rhan fwyaf o'r pysgota treillio'n digwydd o fewn y dyfnder hwn ar hyd y silffoedd a'r llethrau cyfandirol yng nghefnforoedd y byd. Bu'r astudiaeth yn canolbwyntio ar y dyfnderoedd hynny, sy'n cwmpasu tua 7.8 miliwn o gilometrau sgwâr o'r môr.
Mae'r a gyhoeddir [8/10/18] yn Nhrafodion Academi Genedlaethol y Gwyddorau, yn dwyn ynghyd 57 o wyddonwyr o 22 o wledydd, pob un ag arbenigedd mewn mapio gweithgareddau pysgota o ddata monitro lloerennau a llyfrau log pysgota. Mae'n dangos bod yr ôl troed pysgota ar waelod y môr ar y silffoedd a'r llethrau cyfandirol ledled cefnforoedd y byd yn aml wedi ei oramcangyfrif yn ddirfawr.
Bu treillio'n beth dadleuol iawn oherwydd ac nid yw ei ôl troed wedi'i fesur ar gyfer cymaint o ranbarthau ar gydraniad digon uchel.
"Os na wnewch chi fesur dosbarthiad y treillio ar raddfa fân, mi wnewch chi or-amcangyfrif ôl troed y treillio a'r effeithiau ar yr ecosystem sy'n deillio o hynny" meddai'r awdur Jan Hiddink o'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, y Deyrnas Unedig. Roedd Hiddink a Kaiser ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn rhan o'r tîm rhyngwladol o wyddonwyr a fu'n cynllunio ac yn cydlynu'r astudiaeth.
Bu'r dadansoddiadau blaenorol yn mapio'r treillio ar gridiau 3,000 neu fwy o gilometrau sgwâr, er enghraifft, o'i gymharu â'r gridiau 1- i 3-cilometr-sgwâr a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn.
Mae'r amcangyfrifon o'r ôl troed sydd yn y papur newydd yma hefyd yn fwy cywir na'r rhai sy'n cael eu disgrifio mewn rhai astudiaethau blaenorol, oherwydd maen nhw'n defnyddio gwybodaeth am yr offer y mae'r fflydoedd pysgota'n ei ddefnyddio, esbonia'r awduron. Os ydych chi'n gwybod beth oedd maint y rhwyd treillio, a oedd ei rhychwant yn 10 metr neu'n 100 metr, er enghraifft, mae'n helpu gwella'r amcangyfrif o arwynebedd y môr y bu mewn cysylltiad ag ef.
Er i'r awduron ganfod bod 14 y cant o ardal gyfunol yr astudiaeth yn cael ei dreillio, roedd gwahaniaethau daearyddol mawr. Er enghraifft, dim ond 0.4 y cant o lawr y môr oddi ar Dde Chile sy'n cael ei dreillio. Mae mwy nag 80 y cant o lawr y môr yn y Môr Adriatig, sy'n rhan o'r Môr Canoldir, yn cael ei dreillio, a dyna lle mae'r ôl troed mwyaf dwys.
Yn ogystal, roedd ôl traed y treillio'n cwmpasu llai na 10 y cant o lawr y môr yn nyfroedd Awstralia a Seland Newydd, ac yn Ynysoedd Aleutia yng ngogledd y Môr Tawel, Môr Dwyrain Bering a Gwlff Alaska, ond roedd yn uwch na 50 y cant mewn rhai moroedd Ewropeaidd.
Roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnig tystiolaeth ar gyfer buddion amgylcheddol cysylltiedig - o ran lle mae ôl troed y treillio'n llai - a'r arferion pysgota'n gynaliadwy, eglurodd y cyd-awdur o'r Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Archwilio'r Môr.
"Yn y rhanbarthau hynny lle’r oedd ôl traed treillio gwaelod y môr yn llai na 10 y cant o ardal llawr y môr, roedd cyfraddau pysgota'r stoc bysgod ar waelod y môr yn unol â'r meincnodau cynaliadwyedd rhyngwladol bron yn ddiwahân. Ond pan mae'r ôl troed yn fwy nag 20 y cant, yn anaml iawn y cânt eu bodloni," meddai Jennings.
Mae'r awduron yn cydnabod nad oedd rhai rhanbarthau lle gwyddom fod llawer o dreillio'n digwydd wedi eu cynnwys yn yr astudiaeth hon oherwydd nad oedd data ar gael i greu darlun cyflawn o'r gweithgareddau pysgota. Mae De-ddwyrain Asia yn un o'r rhanbarthau hynny.
Er hynny, mae'r papur newydd yma'n cynnig y darlun mwyaf cynhwysfawr erioed o weithgareddau treillio ledled y byd, esboniodd y cyd-awdur, , athro y gwyddorau dyfrol a physgodfeydd ym Mhrifysgol Washington. Mae hefyd yn disgrifio ffordd o amcangyfrif ôl troed treillio mewn rhanbarthau lle mae mesuriadau'r offer, cyflymder y llongau a chyfanswm yr oriau treillio'n hysbys, ond mae data ynglŷn ag union leoliad y cychod yn brin ac y mae rhai fflydoedd bellach yn casglu'r data hwnnw.
"Gallwn ddefnyddio'r dull yma i wneud amcangyfrifon rhesymol dda o ôl troed treillio mewn mannau lle nad oes gennym ddata gofodol manwl," meddai Hilborn.
Awdur arweiniol y gwaith oedd , a gwblhaodd yr ymchwil fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Washington yn Ysgol y Gwyddorau Dyfrol a Physgodfeydd. Ymhlith yr ymchwilwyr eraill a fu'n ymwneud â chynllunio'r astudiaeth mae Michel Kaiser o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn y Deyrnas Unedig a Chyngor Stiwardiaeth y Môr; Roland Pitcher o CSIRO Oceans ac Atmosphere yn Awstralia; Adriaan Rijnsdorp o Ymchwil Morol Wageningen yr Iseldiroedd; Robert McConnaughey o Ganolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Alaska; Ana Parma o Centro Nacional Patagónico yn yr Ariannin; Petri Suuronen o Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Adnoddau Naturiol y Ffindir; Jeremy Collie o Brifysgol Rhode Island; a Jan Hiddink o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae rhestr lawn o'r cyd-awduron ar gael yn .
Mae'r grŵp hefyd yn cloriannu sy'n byw ar waelod y môr, a sut mae'r newidiadau y mae'r planhigion a'r anifeiliaid hyn yn eu profi'n .
Ariannwyd yr astudiaeth hon yn bennaf gan Sefydliad David a Lucile Packard a Sefydliad Teulu Walton. Mae rhestr lawn o'r ffynonellau cyllid ychwanegol ar gael yn .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2018