Llysieufa unigryw i hyfforddi cadwraethwyr planhigion y dyfodol
Un o'r adnoddau sydd i'w darparu i fyfyrwyr yn astudio cwrs newydd mewn cadwraeth planhigion ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yw 'llysieufa' unigryw, sef llyfrgell gyfeiriadol o blanhigion, yn cynnwys rhai samplau a gasglwyd mor bell yn 么l a'r ddeunawfed ganrif.
Nod y cwrs MSc newydd yw unioni'r prinder arbenigwyr sydd eu hangen i ddiogelu ein hadnoddau planhigion at y dyfodol. Mae hyn mewn ymateb i gydnabyddiaeth gynyddol bod dirywiad mewn cyfleoedd hyfforddi yn y gwyddorau botanegol dros y ddau ddegawd diwethaf wedi arwain at brinder gwyddonwyr gyda sgiliau a gwybodaeth ym maes cadwraeth planhigion.
Yn ogystal 芒'r llysieufa, bydd y Brifysgol yn defnyddio Gardd Fotaneg Treborth a fel adnoddau i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr planhigion. Bydd arbenigwyr cadwraeth a botaneg adnabyddus y Brifysgol yn yn dysgu ar y cwrs, a bydd arbenigwyr blaenllaw o bob rhan o Brydain yn ymuno 芒 hwy, yn cynnwys rhai o sefydliadau fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Plantlife International, Botanic Gardens Conservation International a'r Royal Botanic Gardens, Kew. Caiff elfen ryngwladol ei chynnwys drwy bartneriaeth a ffurfiwyd yn ddiweddar rhwng y Brifysgol a Gardd Fotaneg Xishuangbanna yn China.
I lansio'r cwrs newydd bu Dr Colin Clubbe o'r Royal Botanic Gardens, Kew yn rhoi sgwrs ar 'Plant Conservation in the UK Overseas Territories' ddydd Gwener, 28 Mawrth.
Dywedodd Dr Colin Clubbe: "Bydd y cwrs hwn yn cael effaith wirioneddol fyd-eang ym myd cadwraeth planhigion. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan ansawdd ac egni myfyrwyr presennol 亚洲色吧, a fydd ymhlith y rhai s a fydd yn gallu elwa o'r cwrs ardderchog."
Roedd gweithgareddau'r lansio hefyd yn cynnwys cyfle i weld y llysieufa yn Amgueddfa Byd Natur y Brifysgol yn Adeilad Brambell gan bod y wybodaeth yno ar fin cael ei digideiddio fel y bydd ar gael yn hwylusach i bawb yn Gymraeg a Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014