Gwyddonydd o Brifysgol 亚洲色吧 yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile
Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Prifysgol 亚洲色吧.
Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.
Yn ystod yr 13 mlynedd diwethaf, mae Dr Russell wedi gweithio ar gynllunio rheoli, llwybrau i ymwelwyr, deunyddiau dehongli a hyfforddiant i dywysyddion ym Mharc Ethnofotanegol Omora yn y Warchodfa Biosffer. Yn 2018, llwyddodd Dr Russell a'i gydweithwyr o Chile i sicrhau amddiffyniad cyfreithiol dros 144,000km2 o forfynyddoedd tanfor yn y "Parc M么r Diego Ramirez-Drake Passage" a sefydlwyd yn ddiweddar i'r de o'r Warchodfa Biosffer.
Yn y seremoni gyflwyno, rhestrodd Llywydd yr International Association of Bryologists, Dr Bernard Goffinet (Prifysgol Connecticut), lwyddiannau gyrfa Dr Russell mewn bryoleg, gan gynnwys ei ymchwil gyfredol gyda myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 ar gynaliadwyedd cynaeafu mwsogl yng Nghymru ar gyfer y diwydiant garddwriaeth.
Yn y seremoni ac mewn derbyniad a gynhaliwyd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar fwrdd y Llong Ymchwil Frenhinol 'Discovery' yn harbwr Punta Arenas, fe wnaeth Llysgennad Prydain i Chile, Mr Jamie Bowden, amlinellu hanes teithiau ymchwil Prydeinig yng nghwr deheuol eithaf De America. Nododd gyfraniad Dr Russell i lyfr newydd am deithiau Charles Darwin yn Tierra del Fuego, a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio gwyddonol pellach rhwng Prydain a Chile, gan fod pwysau amgylcheddol a gwleidyddol yn cynyddu yn ardaloedd yr Antarctig a'r Is-Antarctig.
Nododd Mr Eduardo Barros, cyn-Lywodraethwr Talaith Antarctig Chile, sut yr oedd Dr Russell, o amser ei daith gyntaf i Chile, wedi gweithio i wneud ei ymchwil yn berthnasol a hygyrch i bobl leol, yn arbennig y gymuned Americaniadd frodorol ac i staff a disgyblion ysgolion lleol.
Diolchodd yr Athro Andres Mansilla, Is-Brifathro dros Ymchwil ac Astudiaethau 脭l-radd yn UMAG, i Dr Russell am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth fel athro gwadd yn y Brifysgol, a'i swyddogaeth fel un o ymddiriedolwyr cyntaf 'Canolfan Is-Antarctig yr Horn', sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn Puerto Williams ar Sianel Beagle ar gost o US$20m.
Prifysgol 亚洲色吧 yw'r sefydliad tramor cyntaf i lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth gyda'r Ganolfan newydd, ac mae myfyriwr o Fangor eisoes wedi teithio i'r de i gynnal astudiaethau ecolegol gyda'i chymheiriaid o Chile.
Dywedodd Dr Russell fod derbyn gradd er anrhydedd yn hynod annisgwyl iddo, a dywedodd ei fod yn ei theimlo'n fraint eithriadol o fod wedi cael gweithio dros y ddau ddegawd diwethaf gyda biolegwyr cadwriaethol mor ymroddedig a chyfeillion agos yn Chile. Roedd yn edrych ymlaen at raglen gynyddol o gydweithio rhwng Prifysgol 亚洲色吧 ac UMAG, wrth i gyfleoedd ymchwil a hyfforddi newydd godi, yn dilyn cwblhau Canolfan yr Horn yn 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019