Gwnewch bopeth 鈥 gan gynnwys nofio 芒 siarcod 鈥榬hithwir鈥 鈥 yn Gymraeg!
Mae鈥檔 debyg mai "Ocean Rift", un o raglenni Profiad Realiti Rhithwir (VR) mwyaf poblogaidd y byd, yw鈥檙 rhaglen gyntaf i fod ar gael yn y Gymraeg ar gyfer unrhyw benwisg Profiad Realiti Rhithwir (VR).
Ocean Rift, a gr毛wyd gan Dr Ll欧r Ap Cenydd, Darlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, oedd un o鈥檙 rhaglenni cyntaf i鈥檞 ryddhau a鈥檌 lansio ochr yn ochr 芒 dyfais symudol Samsung Gear VR, ac mae wedi datblygu i fod yn un o鈥檙 rhai mwyaf poblogaidd, gydag oodeutu 2.5 miliwn o lawrlwythiadau ers 2013.
Datblygodd Ll欧r y rhaglen profiad rhithwir ar y cyd gyda Samsung ac Oculus, a hynny yn ei amser hamdden. Wedi ei chyhoeddi gan Picselica Lrd, mae鈥檙 rhaglen wedi ei ddefnyddio ar gyfer lansio nifer o benwisgoedd newydd.
Ym myd rhithwir 鈥Ocean Rift鈥, sef 鈥楶arc Saffari Tanddwr鈥, mae'r defnyddiwr yn canfod ei hun o dan y tonnau mewn byd llachar. Mae'r defnyddiwr yn cael y profiad o nofio gyda gwahanol greaduriaid m么r gan gynnwys dolffiniaid, crwbanod m么r, nadredd m么r, cathod m么r, siarcod, morfilod a hyd yn oed ymlusgiaid o'r cyfnod cyn-hanesyddol sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Mae'r rhaglen yn galluogi defnyddwyr i ddewis o gyfres o gynefinoedd, ac hefyd symud rhyngddynt, gan ddewis o blith creigres gwrel, llongddrylliad, lag诺n, y cefnfor dwfn a hyd yn oed Atlantis. Mae鈥檙 creaduriaid wedi eu hanimeiddio gan system deallusrwydd artiffisial blaengar iawn a ddatblygwyd yn unswydd ar gyfer y project, ac sy鈥檔 dynwared ymddygiad y creaduriaid go iawn.
Mae dros 50 o baneli gwybodaeth am y creaduriaid o fewn maes addysgol y rhaglen bellach ar gael yn Gymraeg. Maent yn adrodd ffeithiau am gynefinoedd y creaduriaid, eu diet, bywydau cymdeithasol ac os ydynt o dan fygythiad neu beidio. Mae hefyd troslais i鈥檙 cyfan, gyda gwraig Ll欧r, Lisa Louise Cenydd, Athrawes yn Ysgol Llandegfan, yn lleisio鈥檙 wybodaeth yn Gymraeg.
Plant o ysgolion y bu Ll欧r yn gyn-ddisgybl ynddynt (Ysgol Gymuned y Fali ac Ysgol Bodedern) fydd y rhai cyntaf i gael gweld y rhaglen addysgiadol yn Gymraeg, wrth iddynt fynychu digwyddiad yn M-Sparc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol 亚洲色吧 yng Ngaerwen ar 28 Tachwedd.
Hefyd yn ystod y digwyddiad, cynhelir sesiwn codio cyfrifiadurol i blant, fel eu bod yn cael cyfle i ddatblygu鈥檙 un sgiliau ag sydd gan Ll欧r ap Cenydd.
Meddai Ll欧r:
"Mae rhywun yn cael argraff o faint a mawredd y Morfil Glas wrth nofio ochr yn ochr ag o yn Ocean Rift, sy鈥檔 brofiad cwbl unigryw i鈥檙 cyfrwng hwn. Mae鈥檙 elfennau addysgiadol yn mynd 芒 hyn gam ymhellach, gan alluogi defnyddwyr i ddysgu am fywyd ym moroedd y byd drwy 鈥榥ofio鈥 yn eu dyfroedd. Rwy鈥檔 falch iawn o鈥檙 cydweithio 芒 phartneriaid i alluogi plant ac oedolion Cymraeg-eu-hiaith i ddysgu am fywyd morol yn y dull newydd a chyffrous hwn.鈥
Mae鈥檙 cyfieithiad wedi ei ddatblygu ar y cyd gyda Chanolfan Ehangu Mynediad, Ysgol Addysg a chyfieithwyr Canolfan Bedwyr Prifysgol 亚洲色吧, gan alluogi disgyblion ysgol ledled Cymru i ddysgu am gefnforoedd y byd mewn ffordd newydd a chyffrous.
Meddai Delyth Murphy, Pennaeth Ehangu Mynediad: Mae wedi bod yn bleser gallu cefnogi鈥檙 fenter hon er mwyn dangos i blant y rhanbarth yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw wireddu eu breuddwydion, a hynny trwy鈥檙 Gymraeg.鈥
Mae鈥檙 diweddariad Cymraeg ar gael drwy wneud cais uniongyrchol i Ll欧r ap Cenydd. Anfonwch e bost at llyr.ap.cenydd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018