Gwneud arolwg o gynefin y salamandr yn Honduras
Mae myfyrwraig o Brifysgol 亚洲色吧 newydd ddychwelyd gartref o daith chwech wythnos i Honduras yng Nghanolbarth America.
Mae Molly Mannion, 20, o Fangor, newydd gwblhau ail flwyddyn ei chwrs pedair blynedd MZool S诺oleg gyda Herpetoleg. Cafodd Molly, sy鈥檔 gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, gyfle i gymryd rhan yn y daith Operation Wallacea fel rhan o'i thraethawd hir. Derbyniodd Molly grant tuag at gostau鈥檙 daith gan yr elusen, D诺r Anafon.
Roedd y daith wedi鈥檌 lleoli ym Mharc Cenedlaethol Cusugno, Honduras. Mae Operation Wallacea yn gweithredu mewn chwe gwersyll yn y Parc, lle maent yn cynnal arolygon ar yr amrywiaeth o anifeiliaid a chynefinoedd a geir yno, gan gynnwys herpetoffawna, ystlumod, adar ac infertebratau. Mae'r data a gesglir yn Honduras yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i lunio portffolio i鈥檞 gyflwyno i'r National Forest Standard i wneud cais am grant i barhau 芒'u hymdrech yn y Parc Cenedlaethol a helpu i atal datgoedwigo yn y parc.
Esboniodd Molly: "Mi es i Honduras i gwblhau fy nhraethawd israddedig ar bum rhywogaeth o鈥檙 salamandr Bolitoglossa (Bolitoglossa conanti, B. dunni, B. dofleini, B. diaphora and B. nympha). Roedd fy mhroject yn edrych yn benodol ar ecoleg y salamandrau drwy sefydlu lle mae eu hoff gynefin. I wneud hyn byddwn yn gwneud arolygon rhan fwyaf o鈥檙 nosweithiau, gan gerdded hyd at 600m i lawr trawslun gan geisio dod o hyd i salamandrau. Wedi i mi ddod o hyd i salamandr, byddwn yn casglu gwybodaeth am ei gynefin, fel y math o glwyd y daethpwyd o hyd iddo arni, pa mor uchel i fyny o'r ddaear ydoedd, pa mor bell o dd诺r ydoedd, pa mor bell o goeden, dyfnder y sbwriel dail o'i amgylch a'r math o goeden y darganfuwyd ef arni. Roeddwn hefyd yn treulio fy amser yn arolygu amrywiaeth o herpetoffawna fel anolau, nadroedd a llyffantod.
"Rwyf wedi dysgu llawer o'm hamser yn Honduras, yn enwedig ymhlith yr amrywiaeth o staff gwyddonol y b没m yn trafod fy ngwaith 芒 hwy. Rwy鈥檔 teimlo fod hyn wedi datblygu fy ngwybodaeth ac yn sylfaen wych i fy nhraethawd.
"Mae'r profiad yma wedi caniat谩u i mi gwblhau darn anhygoel o ymchwil ar gr诺p o anifeiliaid rwy'n hoff iawn ohonynt, yn ogystal 芒 chadarnhau fy niddordeb mewn ymchwil a gwaith maes. Fe wnaeth fy herio'n feddyliol ac yn gorfforol, gyda'r safle yn wirioneddol ynghanol y jyngl a thirwedd a oedd yn gwbl newydd i mi. Roedd yn brofiad bythgofiadwy lle cefais gyfle i gwrdd 芒 phobl ryfeddol ac archwilio bywyd gwyllt anhygoel.
"Rwy'n hynod ddiolchgar i D诺r Anafon am y grant. Roedden nhw'n help mawr wrth fy nghynorthwyo i dalu am fy nhaith ac rwy'n llawn cyffro wrth feddwl am gael cyflwyno fy ngwaith iddyn nhw a phobl Abergwyngregyn yn ystod yr wythnosau nesaf. "
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2018