Gallai robotiaid olygu na fydd pellter yn broblem i fyfyrwyr yn y 'normal newydd'
Mae presenoldeb rhithiol mewn darlithoedd a seminarau trwy ddefnyddio robotiaid tele-bresennol yn opsiwn sy'n cael ei dreialu gan academyddion yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol 亚洲色吧 wrth iddynt archwilio dulliau blaengar o gyflwyno addysgu a dysgu yn ystod y pandemig byd-eang.
Mae robotiaid tele-bresennol yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn diwydiant, yn arbennig pan fydd unigolion sy'n rheoli projectau o bell eisiau cael 'teimlad' go iawn o'r amgylchedd fel yn achos ymweliadau rhithiol 芒 safleoedd adeiladu neu i archwilio rigiau cyngherddau enfawr.
Ond maent yn gynyddol yn cael eu defnyddio gan sefydliadau addysgol ledled y byd i gynorthwyo gyda dysgu rhithiol pan na all myfyrwyr fod yn bresennol wyneb yn wyneb. Gallai hynny fod am amryw o resymau, boed oherwydd pellter daearyddol neu'r angen i warchod am resymau iechyd.
Nid dyma'r tro cyntaf i Fangor fod ar flaen y gad trwy ddefnyddio a datblygu technoleg flaengar. Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mangor oedd yr ysgol gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig graddau mewn Peirianneg Electronig, ac mae'n arweinydd ymchwil mewn meysydd fel rhithrealiti a dysgu peirianyddol.
Dywedodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol 亚洲色吧, "Weithiau mae sefyllfaoedd heriol hefyd yn gatalydd i arloesi a dychymyg. Mae Realiti Estynedig a Digidol i Real yn rhan fawr o'r hyn mae ein myfyrwyr Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn edrych arno, a pha ffordd well o weld hynny'n gweithio ar lefel ymarferol na thrwy roi cyfle iddynt ddefnyddio'r robotiaid yma. Rydym yn defnyddio鈥檙 brwdfrydedd rydym yn ei rannu dros dechnoleg newydd fel ffordd o archwilio gwahanol ffyrdd o ddarparu'r addysgu a'r dysgu gorau posib i fyfyrwyr."
Mae camer芒u, meicroffonau ac amryw o synwyryddion Deallusrwydd Artiffisial yn caniat谩u i'r 'gyrrwr' lywio鈥檔 ddiogel o gwmpas y mannau hynny y caniateir mynediad iddynt, ac mae sgrin fawr yn golygu y gall pobl sydd yno weld wyneb yr unigolyn.
Gallai project peilot gan d卯m Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig 亚洲色吧 roi鈥檙 cyfle i rai myfyrwyr roi cynnig ar ddefnyddio robotiaid tele-bresennol yr adran mewn sesiynau ymarferol a seminarau.
Dywedodd Dr David Perkins, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu ac uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, "Wrth i'r defnydd o'r math yma o dechnoleg gynyddu, mae'n bwysig inni dreialu gwahanol ffyrdd o greu amgylchedd dysgu. Ein nod yw rhoi cyfle i rai myfyrwyr ar gyrsiau cyfrifiadureg a pheirianneg electronig roi cynnig ar y robotiaid, a gweld sut yr aiff hynny. Mae'n cymryd ychydig o ymarfer, ond mae'n syndod pa mor wahanol y mae bod mewn ystafell trwy gyfrwng tele-robot yn teimlo o鈥檌 gymharu 芒 Zoom neu Teams. Mae cael y rhyddid i edrych o gwmpas, ac i'r darlithydd siarad yn uniongyrchol 芒 chi, yn gwneud yr holl brofiad yn llawer dyfnach."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2020