Gall newid y defnydd o dir amaethyddol leihau allyriadau nwyon tÅ· gwydr yn aruthrol
Mae academydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cyfrannu at astudiaeth newydd sy'n cynnig syniadau newydd gwreiddiol a phwysig ynghylch sut i gyflawni ymrwymiadau’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r ymchwil wedi canfod trwy wneud tir amaethyddol yn fwy cynhyrchiol y gellid cynhyrchu mwy o fwyd a hefyd gostwng allyriadau nwyon tÅ· gwydr y DU yn sylweddol.
Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu tuag at gynhyrchu nwyon tÅ· gwydr, drwy'r peiriannau trwm angenrheidiol sy'n rhedeg ar danwydd ffosil, rhoi nitrogen yn y tir, a thrwy allyriadau da byw. Ond gall hefyd leihau gallu naturiol rhai mathau o dir - yn enwedig mawn a gwlypdiroedd - i leihau newid yn yr hinsawdd drwy storio carbon.
Bu’r Athro Dave Chadwick, o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn rhan o gonsortiwm rhyngwladol o ymchwilwyr gan gynnwys Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol California. Canfuwyd y gall cynyddu cynnyrch tir amaethyddol fod yn ffactor allweddol wrth fynd i'r afael ag ymrwymiadau’r DU i leihau nwyon tÅ· gwydr 80% - o lefelau 1990 - erbyn 2050. Ei gyfraniad at yr astudiaeth oedd cynnig ei arbenigedd ar effeithiau arferion rheoli fferm ar allyriadau ocsid nitrus o bridd. Yn ddiweddar bu’r Athro Chadwick yn arwain prosiect consortiwm >£6.5M i wella cydran ocsid nitrus o allyriadau nwyon tÅ· gwydr amaethyddol y DU.
Bydd cynyddu cynnyrch yn caniatáu lleihau’r tir sydd ei angen i gynnal cynhyrchiant bwyd, hyd yn oed gyda phoblogaeth sy'n tyfu. Yna gall y tir sydd wedi’i ‘arbed’ gael ei adfer i'w gynefin naturiol a fyddai'n storio symiau mawr o garbon.
Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn Nature Climate Change, yn dangos bod yna botensial i gyflawni mwy na'r gostyngiad gofynnol o 80% mewn nwyon tŷ gwydr os bydd cynnydd mewn cynnyrch yn cael ei gyfuno â thir sy'n cael ei adael heb ei amaethu a'i ddefnyddio i storio carbon. Mae'r gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd yn oed yn fwy os caiff y tir sy’n cael ei arbed ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n storio mwy o garbon, fel plannu coed, neu os bydd y defnyddwyr yn lleihau gwastraff bwyd neu leihau'r defnydd o fwydydd allyriadau uchel megis cig.
Dywedodd yr Athro Chadwick: "Mae'r astudiaeth bwysig hon yn dangos y potensial ar gyfer gwneud y defnydd gorau o dir er mwyn ateb y galw cynyddol am gynnyrch bwyd, ac ar yr un pryd gyrraedd targedau cenedlaethol ar gyfer lleihau nwyon tŷ gwydr. Ar ben hynny gall y math yma o ddwysáu cynaliadwy hefyd sicrhau manteision ehangach o ran creu cynefinoedd i fywyd gwyllt."
Meddai'r Athro Ian Bateman o Brifysgol Exeter: "Mae yna ansicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd i brisiau bwyd a'r hinsawdd yn y dyfodol, ond mae’r astudiaeth yma'n dangos bod buddsoddi mewn cynyddu cynnyrch yn ein galluogi i leihau'r tir a ddefnyddir gan amaethyddiaeth a lleihau nwyon tŷ gwydr y DU yn sylweddol tra’n dal i gynhyrchu bwyd."
"Ond, wrth wneud hyn mae'n hanfodol sicrhau ein bod yn ystyried yr effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach a ddaw yn sgil newidiadau o'r fath. Mae newid defnydd tir yn cael lliaws o effeithiau, nid yn unig ar nwyon tŷ gwydr a bwyd, ond hefyd ar fioamrywiaeth, ansawdd dŵr, perygl llifogydd, hamdden ac, os na chymerir camau i wneud iawn amdano, gall hefyd gael effaith ar incwm amaethyddol. Dim ond drwy edrych ar yr ystod lawn o effeithiau y gallwn wir adnabod y polisïau cywir i’w dilyn a dyma yw prif ffocws ein gwaith ymchwil parhaus."
Mae'r astudiaeth, sy'n seiliedig ar fodelu ac amcanestyniadau, yn cael ei harwain gan Andrew Balmford, Anthony Lamb a Rhys Green o Brifysgol Caergrawnt, ac mae’n cynnwys gwaith gan ymchwilwyr o Brifysgolion California, ÑÇÖÞÉ«°É, Exeter, Aberdeen, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, y Comisiwn Coedwigaeth, Rothamsted Research, ADAS UK Ltd a Choleg Gwledig yr Alban (SRUC).
Meddai prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Andrew Balmford, Prifysgol Caergrawnt: "Mae tir yn ffynhonnell nwyon tŷ gwydr os caiff ei ddefnyddio i dyfu cnydau amaethyddol sydd angen llawer o wrtaith neu wartheg sy’n cynhyrchu methan, neu gall fod yn sinc ar gyfer nwyon tŷ gwydr - trwy eu dal a’u storio.
"Os byddwn yn creu mwy o goetiroedd a gwlypdiroedd, bydd y tiroedd hynny yn storio carbon mewn coed, ei ffotosyntheseiddio mewn cyrs, ac yn ei gyfeirio i lawr i’r pridd.
"Rydym yn amcangyfrif trwy fynd ati i gynyddu cynnyrch amaethyddol, y gall y DU leihau'r tir sy’n ffynhonnell nwyon tŷ gwydr, cynyddu'r 'sinc', a storio digon o garbon i gyrraedd targedau lleihau allyriadau cenedlaethol y diwydiant amaeth erbyn 2050."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2016