Gall mannau anodd eu pysgota ar wely鈥檙 m么r fod yn llochesau ar gyfer y gath f么r sydd mewn perygl
Mae gwyddonwyr m么r sy鈥檔 gweithio yn y M么r Celtaidd wedi darganfod lloches naturiol ar gyfer y forgath drwynfain, sydd mewn perygl enbyd.
Mae llawer o elasmobranciaid (siarcod a chathod m么r) yn agored iawn i niwed gan orbysgota, ond dengys papur newydd yn y cylchgrawn mynediad agored y gall ardaloedd bach ar wely鈥檙 m么r lle ceir llai o bysgota na鈥檙 cyffredin gynnal poblogaethau mwy o鈥檙 rhywogaethau hyn.
Yn 么l yr astudiaeth, mae鈥檙 mannau llochesu hynny yn y M么r Celtaidd yn cynnal o leiaf ddeg rhywogaeth o elasmobranciaid, yn cynnwys y gath f么r las brin (Dipturus flossada) a鈥檌 chyfnither, y forgath drwynfain (Dipturus intermedia). Arferid ystyried mai un rhywogaeth yn unig (D. batis) oedd dipturus, ond cafodd sylw yn y newyddion yn 2009 pan ganfuwyd achos o gamadnabyddiad (Newyddion y BBC: Science/Nature). Bellach, mae鈥檙 ddwy rywogaeth wedi鈥檜 rhestru fel rhywogaethau mewn perygl enbyd, ond bernir mai poblogaethau鈥檙 forgath drwynfain, a all dyfu i hyd at 2.5 medr ar eu hyd, sydd dan y bygythiad mwyaf o ddifodiant. Yn 么l rheoliadau鈥檙 Undeb Ewropeaidd, rhaid i bysgotwyr daflu unrhyw forgathod trwynfain yn 么l ond, oherwydd eu bod yn tyfu ac yn epilio mor araf, mae hyd yn oed lefelau isel iawn o farwolaethau trwy bysgota bellach yn annerbyniol yng nghyswllt y rhywogaeth hon.
Gwyddonwyr o Brifysgol y Frenhines, B茅al Feirste (Belfast), Prifysgol 亚洲色吧 a Sefydliad Morol Iwerddon a gynhaliodd yr astudiaeth. Mae鈥檙 prif ymchwilydd, Dr. Samuel Shephard, yn awgrymu bod y ffaith fod cadarnle wedi鈥檌 ddarganfod yn y M么r Celtaidd ar gyfer y forgath drwynfain yn gyfle gwych i helpu i achub rhywogaeth sydd ar fin cael ei difodi. Ychwanegodd yr , Cadeirydd mewn Cadwraeth M么r ym Mhrifysgol 亚洲色吧, 鈥淥鈥檙 blaen, mae rhai wedi dadlau nad yw ardaloedd sydd o ychydig yn unig o ddiddordeb i鈥檙 diwydiant pysgota yn werth eu cadw; fodd bynnag, mae鈥檔 amlwg fod yr astudiaeth hon yn gwrthdroi鈥檙 ddirnadaeth honno, ac yn amlygu mor bwysig yw rhai o鈥檙 ardaloedd hynny, mewn gwirionedd鈥.
Yr hyn sy鈥檔 bwysig yw bod y diwydiant pysgota wedi ymateb yn gadarnhaol i鈥檙 sefyllfa 鈥榚nnill-ennill鈥, sef bod gan ardaloedd sydd o ychydig yn unig o fudd masnachol bosibiliadau fel gwarchodfeydd morol o bwys. Cyflwynodd yr Athro Dave Reid y wybodaeth hon i arweinyddion diwydiannol, ac mae hynny wedi arwain at gynnwys yr ardaloedd hyn mewn cynlluniau rheoli arfaethedig ar gyfer elasmobranciaid ym M么r Iwerddon a鈥檙 M么r Celtaidd. Ymatebodd Eibhl铆n O鈥橲ullivan, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Pysgotwyr De a Gorllewin Iwerddon, 鈥淢ae鈥檙 diwydiant pysgota yn Iwerddon yn gweithio gyda鈥檙 Sefydliad Morol ers 18 mis ar ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer Cathod M么r. Mae鈥檙 ymchwil newydd hon yn ychwanegu gwybodaeth werthfawr o ran adnabod ardaloedd y gellid eu cau yn dymhorol.鈥 Nododd yr Athro Reid, 鈥淢ae hwn yn fodel gwych ar gyfer cydweithredu rhwng y diwydiant pysgota a gwyddonwyr ym maes cadwraeth.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012