Fe synnech chi ond mae economeg gymdeithasol yn effeithio ar Riffiau Cwrel
Dywed y biolegwyr morol sy'n gweithio i achub riffiau cwrel y byd fod gweithgareddau dynol yn effeithio'n gynyddol ar riffiau cwrel y byd. O ganlyniad, mae angen i fiolegwyr morol gynnwys asesiad o effeithiau'r gweithgareddau hynny, efallai o farchnadoedd neu ddinasoedd pell, ar oroesiad y riffiau cwrel.
Mewn rhifyn arbennig o Functional Ecology; 鈥C鈥, a defnyddio riffiau cwrel fel enghraifft, mae'r gwyddonwyr yn galw am gynnwys gweithgareddau economaidd-gymdeithasol wrth ddarogan adwaith ecosystemau riffiau cwrel at y dyfodol.
Yn hytrach nag ystyried effeithiau dynol lleol fel pysgota, a gwarediad maetholion i'r m么r o fyd amaeth, neu waddodion o ganlyniad i ddatblygu'r arfordir, bydd angen i'r modelau gynnwys effaith gweithgareddau economaidd neu ddemograffig mewn marchnadoedd pell, trwy gynnydd yn y lefelau CO2 yn fyd-eang, y galw byd-eang am bysgod neu niferoedd y twristiaid.
Mae'r Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧, awdur arweiniol y papur a Golygydd Gwadd y rhifyn arbennig yn esbonio:
"O ran darogan yr hyn sy'n sbarduno dynameg riffiau cwrel heddiw, rhaid newid ein ffyrdd o feddwl ac o ymdrin ag ecoleg y riffiau cwrel. Bydd hyn yn golygu ymchwil ar y cyd rhwng gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol ar bob gwastad. Rydym wedi bathu'r term 'macroecoleg ecolegol-gymdeithasol' ar gyfer y dull newydd yma.
"O fesur effeithiau lleol yn unig fel pysgota welwn ni ddim mo''r darlun mawr. Yn wir, mae sbardunwyr economaidd-gymdeithasol cymhleth sydd yn y pen draw'n pennu'r lefelau pysgota ar y r卯ff, sbardunwyr megis masnach, galw o blith defnyddwyr, y pellter i'r marchnadoedd ac ymfudiad pobl. Mae angen inni fynd ati i weithio i ddeall sut mae'r gweithgareddau dynol byd-eang yma'n gysylltiedig ag effeithiau lleol fel pysgota, a sut maent yn rhyngweithio 芒'u gilydd ar wahanol raddfeydd."
Dywedodd y Golygydd Gwadd a'r cyd-awdur, yr Athro Nicholas Graham o Ganolfan Amgylchedd Prifysgol Lancaster:
"Rydym yn damcaniaethu, er bod sbardunwyr bioffisegol yn dal i ddylanwadu ar strwythur a swyddogaeth ecosystemau'r riffiau cwrel, daw'n fwyfwy anodd eu defnyddio i ddarogan ar gyfer systemau fel riffiau cwrel wrth inni symud ymhellach i'r Anthroposen."
Mae'r papur yn disgrifio'r newidiadau sy'n wynebu riffiau cwrel ac amgylchedd y m么r yn gyffredinol, ac mae'n dangos bod y m么r yn agored i effeithiau dynol - nid yn unig o gynnydd yn nhymheredd y m么r ac asidiad cynyddol ond hefyd o rywogaethau a micro-organebau estron, sy'n gallu croesi'r m么r mawr ar ynysoedd o blastig sy'n arnofio ar y d诺r. Dangoswyd bod hwn yn ddull o wasgaru pysgod trofannol ac i bysgodfeydd yr Iwerydd groesi dyfnder mawr Canol yr Iwerydd. Mae hefyd yn hwyluso dyfodiad y rhywogaethau estron ac yn fodd i ledaenu pathogenau sy'n achosi afiechydon i'r riffiau cwrel.
Mae ymchwil diweddar hyd yn oed yn awgrymu y gallai adeileddau a godwyd gan bobl, megis gweithfeydd olew a nwy ym M么r y Gogledd, gynnig rhwydwaith rhanbarthol cysylltiedig o ecosystemau cwrel sy'n gallu cyflenwi larf芒u i boblogaethau naturiol yn bellach i ffwrdd. Afraid dweud, rydym mewn cyfnod newydd ac mae'r riffiau cwrel hefyd a rhaid inni addasu sut rydym yn eu hastudio.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2019