Effaith newid hinsawdd ar ryddhau CO2 o fawn llawer uwch nag y tybiwyd
Mae cyfnodau o dywydd sych eithafol yn achosi i fawn ryddhau llawer mwy o garbon deuocsid na鈥檙 hyn a sylweddolwyd.
O ganlyniad i newid hinsawdd, rhagwelir y bydd rhan helaeth o diroedd mawnog y byd yn profi cyfnodau o sychder mwy dwys ac yn amlach, oherwydd eu lleoliad - gan achosi i鈥檙 mawn sychu, a gollwng gafael ar storfeydd helaeth o garbon deuocsid (CO2) i'r atmosffer. Gwlybaniaeth mawn sydd wedi cadw鈥檙 aer allan, gan gloi gwerth canrifoedd o garbon deuocsid yn y mawn a fyddai, fel rheol, yn cael ei ryddhau wrth i鈥檙 deunyddiau planhigion bydru. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi darganfod bod effaith y cyfnodau o sychder difrifol yn llawer mwy pellgyrhaeddol na chyfnod y sychder ei hun.
Gan ysgrifennu yn (doi 10.1038 NGEO1323), mae Dr Nathalie Fenner a'r Athro Chris Freeman o Brifysgol 亚洲色吧 yn esbonio sut mae鈥檙 sychder yn achosi cynnydd yn y raddfa mae鈥檙 CO2 yn cael ei rhyddhau i bara, o bosibl, cyhyd 芒 degawd. Yn wreiddiol, cymerwyd yn ganiataol bod y rhan fwyaf o'r CO2 yn cael ei ryddhau o'r mawn sych. Bellach mae鈥檙 gwyddonwyr wedi canfod bod y mawn yn parhau i ryddhau鈥檙 CO2, a gall fod hyn yn cynyddu, hyd yn oed, pan fydd y mawn yn cael ei ail-wlychu efo dyfodiad y glaw. Mae'r carbon yn cael ei golli i'r atmosffer fel CO2 ac i'r dyfroedd sy鈥檔 draenio鈥檙 mawn-diroedd draenio fel carbon organig toddedig (DOC).
"Wrth i batrymau hinsawdd a glaw newid yn fyd-eang, efallai na fydd ein mawn-diroedd yn cael digon o gyfle i ddod atynt eu hunain rhwng y cyfnodau o golli CO2 a achoswyd gan sychder," eglura awdur y papur, Dr Nathalie Fenner. "Mae鈥檙 hyn yr oeddynt yn ystyried fel 'copa' yn y gyfradd o golli carbon yn ystod sychu allan, bellach yn ymddangos yn llawer mwy hirdymor, efo鈥檙 posibilrwydd bod y brig yn raddfa鈥檙 rhyddhau鈥檙 CO2 yn digwydd wedi i鈥檙 cyfnod sychder cychwynnol ddod i ben."
Yn ogystal 芒 chyfrannu ymhellach at newid hinsawdd, gan fod CO2 yn un o'r 'nwyon t欧 gwydr', mae goblygiadau eraill i golli鈥檙 carbon o'r mawn. Gyda llawer o鈥檔 cyflenwad d诺r yfed yn dod o鈥檙 ucheldir, gallai鈥檙 carbon organig toddedig sydd yn y d诺r o ganlyniad i'r broses hon, gael effaith andwyol ar ansawdd d诺r yfed. Mae'r cynnydd mewn carbon organig toddedig yn y d诺r yn debygol o ddod 芒 phroblemau ychwanegol a chost i'r diwydiant cyflenwad d诺r yn ei sgil oherwydd ei fod yn amharu ar y broses trin.
Gallai colli carbon arwain yn y pen draw at ddirywiad difrifol y mawndir ei hun. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 mawn i鈥檞 gael yn gorwedd ar ucheldir hemisffer y gogledd. Gallai colli鈥檙 mawn-diroedd hyn gyfrannu at gynnydd mewn achlysuron o lifogydd yn y dyffrynnoedd islaw, gan fod y mawn yn gweithredu fel 'sbwng' naturiol ar gyfer glaw trwm. Byddai hefyd yn cyfrannu at golli cynefinoedd a rhywogaethau yn ogystal 芒 newid edrychiad a naws ein hucheldiroedd.
"Cyfnod y sychder sydd wedi bod yn ganolbwynt i鈥檙 gwaith ymchwil a wnaed hyd yn hyn. Mae ein gwaith ninnau wedi cyfrannu drwy adnabod sut y mae'r rhyddhau CO2 yn digwydd," esboniodd yr Athro Chris Freeman, sy'n arwain y Labordy Dal Carbon Mawndir Wolfson ym Mhrifysgol 亚洲色吧. "Cawsom ein synnu wrth ganfod bod yr effeithiau mor hir-dymor. Ein hamcan yw bod microbau鈥檔 gyfrifol am yr hyn sy鈥檔 digwydd a bod y gweithgaredd hwn wedi cael ei sbarduno wrth i ocsigen gymryd lle鈥檙 d诺r yn y mawn. Pan ddaw鈥檙 d诺r yn ei 么l, mae鈥檙 amgylchiadau鈥檔 wahanol, a鈥檙 microbau鈥檔 medru ffynnu hyd nes bod yr amgylchiadau鈥檔 dychwelyd i鈥檙 hyn yr oeddynt yn wreiddiol"
Mae awduron y papur yn awgrymu y dylid ystyried ymatebion geo-peiriannyddol i ddiogelu鈥檙 bwrdd d诺r a lleihau effeithiau sychder ar fawn yr ucheldir.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011