Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol
Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn ddiweddar.
Treuliodd y disgyblion Blwyddyn 12 dri diwrnod yn cael profiad dwys o addysg uwch mewn Ysgol Haf, gyda鈥檙 nod o sicrhau eu bod yn cael dealltwriaeth ddyfnach o鈥檙 hyn sydd gan brifysgol i鈥檞 gynnig. Nid oedd gan rai o鈥檙 disgyblion a fu鈥檔 mynychu unrhyw brofiad teuluol o fynychu prifysgol.
Roedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys darlithoedd byr yn seiliedig ar bynciau academaidd a sesiynau ymarferol ar ddatblygu gyrfa, ar gyllid myfyrwyr a gwasanaethau cefnogi. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Adran Farchnata鈥檙 Brifysgol, hefyd yn gyfle i gwrdd 芒 myfyrwyr presennol, gyda th卯m o Fyfyrwyr-Lysgenhadon yn mynd gyda鈥檙 disgyblion i鈥檙 gweithgareddau ac yno i ateb unrhyw gwestiynau am fywyd prifysgol.
Roedd y seminarau academaidd yn cynnwys pynciau megis Hanes, Gwyddorau Gofal Iechyd (Nyrsio a Bydwreigiaeth), y Gyfraith, Seicoleg, Gwyddorau Eigion ac Ieithoedd Modern. Bu鈥檙 gr诺p, a fu鈥檔 aros mewn fflatiau ym Mhentref Myfyrwyr Ffriddoedd, hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau Adeiladu T卯m megis paintball a chertio.
鈥淩oedd yn gyfle gwych i ddisgyblion Blwyddyn 12 ar draws gogledd Cymru ganfod mwy am y profiad llawn o fynd i Brifysgol, o fynychu darlithoedd academaidd a seminarau at aros mewn neuaddau preswyl a chael cwrdd 芒 phobl newydd,鈥 meddai Amanda Smith, Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Digwyddiadau.
鈥淩oedd yr adborth a gawsom gan y disgyblion yn wych 鈥 gyda phawb eisio aros am dridiau arall! Roedd yn gyfle iddynt ddod i adnabod eraill, gyda鈥檙 rhai a fu yma鈥檔 gwneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol 鈥 a nifer ohonynt yn ystyried gwneud cais i astudio cyrsiau ym Mhrifysgol 亚洲色吧 y flwyddyn nesaf.鈥
Roedd y disgyblion o鈥檙 ysgolion canlynol: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Denbigh High School; Ysgol John Bright, Llandudno; Ysgol Alun, Yr Wyddgrug; Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn; Ysgol Uwchradd Caergybi; Coleg Cambria, Glannau Dyfrdwy; Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy; Ysgol Brynrefail, Llanrug; Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn; Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018