Dilyniannu DNA newydd yn datgelu cymunedau cuddiedig
Mae hanner bwced o dywod o draeth di-nod yn yr Alban wedi datgelu gwe o anifeiliaid meicrosgopic mwy cyfoethog a chymhleth yn byw o fewn yr "ecosystem" fechan, nag a dybiwyd erioed.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn ar-lein adroddir sut y gwnaed hyn gan ddefnyddio dull newydd sy鈥檔 caniat谩u dilyniannu DNA cymunedau mawr o greaduriaid ac anifeiliaid aml-gell bychan iawn. Meta geneteg amgylcheddol yw鈥檙 enw sydd wedi鈥檌 roi ar y dechneg newydd hon sydd 芒鈥檙 potensial i weddnewid dulliau cyfoes o ddynodi rhywogaethau a dadansoddiadau amgylcheddol gan ddarparu mewnwelediad newydd i strwythur a chyfansoddiad y cymunedau hyn ynghyd 芒 chymwysiadau newydd eraill o bosib.
Cafodd y gwaith ei gynnal gan d卯m rhyngwladol, dan arweiniad Dr Simon Creer yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 亚洲色吧, wedi鈥檌 ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol. Roedd y project yn rhan o waith PhD Vera Fonseca, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 亚洲色吧, sydd wedi鈥檌 noddi gan Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Portiwgal.
Roedd y t卯m yn gallu dynodi amrywiaeth geneteg bron y cwbl o rywogaethau anifeiliaid rhwng 45 micron -1mm mewn maint ar y traeth dan sylw yn yr Alban. Roeddent yn gallu mesur niferoedd o wahanol grwpiau o anifeiliaid am y tro cyntaf erioed. O鈥檌 ddatblygu i asesu cymunedau o fewn gwaddodion ar wely鈥檙 m么r, gellid addasu鈥檙 dechneg ar gyfer unrhyw ecosystem sydd yn llawn o organebau microsgopig.
鈥淢ae鈥檙 technegau dilyniannu yn creu trefn sy鈥檔 gyflymach ac yn rhatach na鈥檙 dulliau traddodiadol. Wrth gwblhau'r gwaith yn y dull traddodiadol, byddai'n cymryd canrifoedd o oriau gwaith i ddynodi pob rhywogaeth unigol o sampl鈥 meddai Vera Fonseca, arweiniodd ar yr adroddiad ac sy鈥檔 fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae鈥檙 dull newydd hwn yn agor y drws ar gyfer ymchwil pellach yn y dyfodol ar bynciau mor amrywiol 芒 newid hinsawdd, effaith llygredd ar iechyd ecosystemau a dosbarthiad bywyd mirocbial o鈥檙 moroedd dwfn i amgylcheddau polar.
鈥淢ae ychwanegu'r dilyniant DNA o鈥檙 samplau i fas-data yn galluogi gwyddonwyr i ddynodi ble fo rhywogaethau unigol yn digwydd- a dros amser- i weld sut y maent yn ymateb i newid hinsawdd, neu lygredd, neu ddigwyddiadau eraill a yrrir gan fodau dynol鈥 esboniodd Dr Creer o Brifysgol 亚洲色吧.
Mae鈥檙 Athro Kelley Thomas o Brifysgol New Hampshire, oedd hefyd yn gweithio ar y project, eisoes yn defnyddio dulliau o鈥檙 math hwn i asesu effeithiau鈥檙 gollwng olew ar gymunedau metazoan meicrobial yng Nghulfor Mecsico.
鈥淲rth allu edrych yn wrthrychol ar yr holl grwpiau anifeiliaid ar yr un pryd am y tro cyntaf, rydan ni鈥檔 gallu dynodi amrywiaeth geneteg sylweddol, a mesur y lluosogrwydd cymharol o wahanol ffurfiau o fywyd anifeiliaid鈥 meddai Dr Creer o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 亚洲色吧.
鈥淓r enghraifft, roedd y data鈥檔 dangos bod gr诺p o lyngyr lledog rheibus wedi鈥檜 diystyru mewn asesiadau traddodiadol. Mae hynny'n debyg i ecolegydd ar laswelltir y savannah yn sylweddoli bod holl deulu鈥檙 gath wedi鈥檌 hepgor o鈥檙 astudiaethau ecolegol blaenorol ar y glaswelltir savannah ."
Meddai un o awduron y papur, yr Athro John D Lambshead o Ysgol Eigion a Gwyddorau鈥檙 Ddaear Prifysgol Southampton:
鈥淵n yr 80au cynnar, mi dreuliais i dair blynedd yn astudio deng mil o fwydod microsgopig ar y Firth of Clyde gyda'm llygad, un ar 么l y llall, gan ddefnyddio microsgopau goleuni cryf gan ddynodi 113 o rywogaethau. Yn ein hastudiaeth DNA newydd, dynodwyd 82 o fwydod nematod o鈥檙 un ardal mewn dim ond mis.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010