Diflaniad tab诺s traddodiadol yn bygwth lemyriaid Madagascar
Mae ynys Madagascar yn enwog drwy鈥檙 byd am ei hanifeiliaid unigryw, megis y lemyriaid. Gwarchodir llawer o rywogaethau prin gan gyfreithiau鈥檙 wlad. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hela anghyfreithlon ar rywogaethau a warchodir yn digwydd ar raddfa fawr mae'n debyg a bod hynny'n fygythiad difrifol i fioamrywiaeth y wlad, sydd o bwysigrwydd byd-eang.
Mae ymchwil gan d卯m o a鈥檙 sefydliad Madagasikara Voakajy yn awgrymu bod hela rhywogaethau gwarchodedig yn nwyrain Madagascar ar gynnydd oherwydd newidiadau cymdeithasol cyflym. Yn draddodiadol roedd llawer o rywogaethau lemyriaid yn cael eu parchu gan fod llawer yn eu hystyried yn ysbrydion hynafiaid a gollwyd yn y goedwig. Er enghraifft, ni fyddai鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn byw o gwmpas y coedwigoedd yn breuddwydio am hela鈥檙 Indri, y lemwr mwyaf yn y byd. Yn 么l traddodiad roedd Indri wedi achub un o鈥檜 hynafiaid pan syrthiodd o goeden wrth gasglu m锚l gwyllt yn y goedwig. Fe wnaeth hwnnw ddatgan wedyn y dylai rhywogaeth yr Indri gael ei gwarchod a'i pharchu am byth. Gwaetha鈥檙 modd, nid yw mwyngloddwyr aur anghyfreithlon, ac eraill sy鈥檔 symud i鈥檙 ardal, yn rhannu鈥檙 un gwerthoedd.
Meddai Julie Razafimanahaka o Madagasikara Voakajy : 鈥淢ae ein hymchwil yn awgrymu bod gan ddynion ifanc fwy o arian at eu dwylo a mwy o amser hamdden o ganlyniad i鈥檙 symud oddi wrth ffermio i chwilio am aur. Maen nhw wedyn yn treulio mwy o amser mewn bariau lleol, yn bwyta cig wedi鈥檌 ffrio efo鈥檜 diodydd. Mae鈥檔 ymddangos bod hela lemyriaid ar gynnydd i gyflenwi鈥檙 farchnad newydd yma. Mae鈥檙 hen dab诺s yn diflannu dan bwysau globaleiddio a phobl yn symud i mewn.鈥
Aeth Julia Jones, o Brifysgol 亚洲色吧, ati i egluro ymhellach: 鈥淢ae bywyd gwyllt rhyfeddol Madagascar, yn arbennig ei lemyriaid byd enwog, yn eithriadol bwysig i ddyfodol y wlad. Maen nhw鈥檔 werth llawer mwy i鈥檙 economi鈥檔 fyw nag fel cig. Dwi鈥檔 gwirioneddol obeithio y gall Madagascar ddatrys y broblem yma.鈥
Mae deall y rhesymau dros y pwysau, yn ogystal 芒 maint y broblem, yn hanfodol i ddatblygu mesurau priodol i amddiffyn lemyriaid a rhywogaethau brodorol eraill. Dangosodd yr ymchwilwyr ei bod yn well gan bobl fwyta cigoedd domestig, fel cyw i芒r a phorc, na chig rhywogaethau鈥檙 goedwig, megis lemyriaid. Mae pobl yn bwyta bywyd gwyllt oherwydd cost uchel darparu cig domestig mewn ardaloedd gwledig.
Meddai Richard Jenkins o , un o awduron yr astudiaeth: 鈥楤yddai darparu dewisiadau eraill yn rhwyddach yn helpu'r sefyllfa. Os gellid ffermio anifeiliaid domestig yn fwy dibynadwy ac yn rhatach, efallai y byddai'r pwysau ar rywogaethau gwyllt yn lleihau. Mae angen mwy o ymdrechion i wella dulliau hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli clefydau arnynt yn ardaloedd y coedwigoedd glaw.鈥
Er bod gan Fadagascar system glir o ddeddfau鈥檔 ymwneud 芒 bywyd gwyllt, nid ydynt yn cael eu gweithredu鈥檔 gadarn mewn llawer o ardaloedd. Mae鈥檙 project wedi gweithio gyda llywodraeth yr ynys ar ymgyrch addysgol i helpu pobl i wybod am y deddfau sydd mewn grym a pha mor fregus yw rhywogaethau fel y lemyriaid prin. Efallai y gwnaiff yr ymgyrch arwain at werthoedd cymdeithasol newydd i gymryd lle鈥檙 hen dab诺s sy鈥檔 prysur ddiflannu.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2011