Defnyddio uwch-gyfrifiaduron i fodelu senarios trychinebau
Bydd israddedigion o Prifysgol 亚洲色吧 yn defnyddio uwch-gyfrifiaduron i weithredu rhaglenni a all ddarogan sut y gall afiechydon marwol ymledu, neu sut mae pobl yn debygol o ymateb mewn trychineb.
Rhoddwyd y project unigryw hwn ar y gweill fel rhan o'r modiwl Professional Perspectives roedd y myfyrwyr yn ei wneud. Yn y modiwl hwn mae'n rhaid i'r myfyrwyr gyflwyno syniad busnes a allai ddefnyddio uwch-gyfrifiadur Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru. Pan gyflwynodd y t卯m eu syniad unigryw i'r panel allanol o feirniaid, cynigiodd eu helpu i fynd 芒'u syniad ymhellach ac maent wedi cynnig cefnogi'r myfyrwyr i weithio arno fel gweithgaredd all-gwricwlaidd.
Bydd HPC Cymru yn rhoi lle mewn gwersyll hyfforddi haf i bob un o'r myfyrwyr, ynghyd 芒 bwrsariaeth o 拢300 yr un. Mae HPC Cymru wedi dangos cefnogaeth eithriadol i'r project.
Yn y project bydd y myfyrwyr yn datblygu offer modelu wedi'i gynllunio'n benodol i'w ddefnyddio ar Gyfrifiadur Perfformiad Uchel. Drwy ddefnyddio system HPC i raglennu, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud miloedd o efelychiadau'r un pryd, gan eu galluogi i wneud y modelau rhagfynegi'n fwy cywir drwy ganlyniadau cyfansymiol. Gellir defnyddio'r offer modelu hwn ar gyfrifiaduron arferol, ond mae'r canlyniadau'n gyfyngedig iawn. Mae'r cyfrifiaduron perfformiad uchel yn cyflymu pethau'n sylweddol, fel bod miloedd o efelychiadau'n cymryd oriau, yn hytrach nag wythnosau, i redeg. Mae hynny'n golygu y gellir cymryd cyfartaleddau o nifer fwy o senarios, gan alluogi rhagfynegi mwy manwl.
Goruchwyliwr y project yw Chris Headland, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg sydd ei hun yn ymchwilio yn y maes cyfrifiaduro hwn. Meddai: "Dwi'n hynod falch y bydd HPC Cymru'n cefnogi datblygu'r syniad yma. Bydd yn brofiad ymchwil a gwaith ardderchog i'n myfyrwyr a dwi'n edrych ymlaen at gael eu helpu."
Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru yn gwmni sydd wedi鈥檜 ffurfio rhwng y Prifysgolion a鈥檙 sector preifat yng Nghymru. Mae鈥檔 darparu gwasanaethau uwchgyfrifiadura integredig i fusnesau ac ymchwilwyr yng Nghymru a thu hwnt, a hynny鈥檔 aml 芒 disgownt llawn. Gan ei fod yn cynnal rhwydwaith uwchgyfrifiadura gwasgaredig mwyaf y DU, mae HPC Cymru鈥檔 cynnig mynediad at y dechnoleg gyfrifiadura fwyaf datblygedig yn y byd, ynghyd 芒 hyfforddiant lefel uchel a chefnogaeth wedi鈥檌 theilwra er mwyn gwneud defnydd effeithiol o鈥檙 dechnoleg. Gall uwchgyfrifiadura ymdrin 芒 symiau aruthrol o ddata a鈥檜 dadansoddi鈥檔 gyflym iawn, gan alluogi busnesau i dorri tir newydd 芒 chynnyrch a phrosesau, datblygu gwasanaethau a bod yn fwy cystadleuol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014