Datgelu bod y Cobra Affricaniadd anferth gyffredin yn bum rhywogaeth wahanol
Mae鈥檙 cobraod ymysg y nadroedd gwenwynig mwyaf adnabyddus. Eto, mae papur ymchwil newydd (ZOOTAXA 1 Awst 2018 ) wedi dangos bod un rhywogaeth o gobra, sef cobra鈥檙 fforest, yn cwmpasu pum rhywogaeth wahanol mewn gwirionedd. Mae dwy o鈥檙 rhywogaethau hyn, Cobra Ddu鈥檙 Fforest a Chobra Rhesog Gorllewin Affrica, yn hollol newydd i wyddoniaeth ac yn cael eu henwi am y tro cyntaf yn y papur hwn.
Meddai鈥檙 herpetolegydd, Dr Wolfgang W眉ster, o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧, a fu鈥檔 arwain y t卯m ymchwil rhyngwladol:
鈥淢ae cobra鈥檙 fforest ymysg y nadroedd gwenwynig mwyaf, gan gyrraedd bron i dair metr o hyd, ac maent yn gyffredin ac yn niferus mewn nifer o rannau o Affrica, a hefyd fel un o鈥檙 rhywogaethau sy鈥檔 cael eu cadw mewn sw, ar gyfer ymchwil neu mewn casgliadau preifat. Mae鈥檙 ffaith bod neidr mor eiconig yn cynnwys pum rhywogaeth ddirgel - a fu鈥檔 cuddio dan ein llygaid - yn dangos cymaint sydd eto i鈥檞 ddarganfod am y byd naturiol. Yn anffodus, hyd yn oed wrth i ni wneud y darganfyddiadau hyn, bydd rhywogaethau unigol yn diflannu cyn i ni ddod i wybod am eu bodolaeth.鈥
Cyn canfod y rhywogaethau newydd, ni ystyriwyd bod cobra鈥檙 fforest dan fygythiad. Ond gall rhai o鈥檙 rhywogaethau newydd fod felly, oherwydd eu bod yn llai niferus ac i鈥檞 cael mewn ardaloedd llawer mwy cyfyngedig. Oherwydd hynny, maent mewn mwy o berygl drwy i goedwigoedd ddiflannu neu drwy eu hela ar gyfer eu cig. Mae鈥檙 darganfyddiad yn codi mwy o gwestiynau am eu statws a fydd o ddefnydd wrth eu gwarchod.鈥
Yn hanesyddol, roedd naturiaethwyr yn dibynnu ar y gwahaniaethau a oedd yn amlwg i鈥檙 llygad er mwyn gwahaniaethu rhwng rhywogaethau, ond mae rhywogaethau cobra鈥檙 fforest yn edrych yn eithaf tebyg i鈥檞 gilydd. Er bod gwahaniaethau ym mhatrwm a nifer y cennau wedi eu nodi, oherwydd eu tebygrwydd i hyd yn oed y llygad mwyaf craff, byddai adnabyddiaeth gywir o鈥檙 rhywogaethau wedi bod yn amhosib cyn dyfodiad technegau genynnol DNA.
鈥淒aeth ein harwydd cyntaf nad un rhywogaeth mo cobra鈥檙 fforest wrth i ni roi sbesimenau yr oeddem yn meddwl nad oedd gwahaniaeth rhyngddynt ond o ran patrwm lliw dan rediad DNA a chael gwahaniaethau enfawr rhyngddynt, llawer mwy nag sydd rhwng rhywogaethau cobraod eraill,鈥 meddai Wolfgang W眉ster.
Meddai Nicholas Casewell o Ysgol Meddyginiaeth Trofannol Lerpwl: 鈥淢ae goblygiadau o bwys i鈥檙 darganfyddiadau yma o ran trin brathiadau nadroedd. Rydym yn gwybod y gall cyfansoddiad gwenwyn amrywio rhwng rhywogaethau nadroedd, ac mae darganfod bod y neidr gyffredin hon yn wir yn bum rhywogaeth wahanol yn bwysig iawn o safbwynt meddygol. Mae鈥檔 golygu bod angen rhagor o waith i sicrhau bod gwrth-wenwynau sydd yn cael eu defnyddio i drin brathiadau gan gobra鈥檙 fforest yn gydnaws gyda鈥檙 holl rhywogaethau.鈥
Bu dau fyfyriwr gradd Meistr o Brifysgol 亚洲色吧, Richard Storey a Cara Hall, yn gweithio ar ochr foleciwlaidd y project fel rhan o鈥檜 gradd ac maent yn cael eu henwi fel cyd-awduron y papur ymchwil. Mae rhestr yr awduron hefyd yn cynnwys herpetolegydd arall a hyfforddwyd ym Mangor, Axel Barlow, sydd bellach ar staff Prifysgol Postdam yn yr Almaen.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2018