Cyn-fyfyrwraig o Fangor yn Ennill Gwobr y Byd am Waith ar Fioleg M么r
Mae Elizabeth Taylor Jay, a gafodd MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y M么r yn 1997/98 ar 么l astudio yn Ysgol Gwyddorau Eigion 亚洲色吧, wedi cael Gwobr y Byd am y Gweithrediad Gorau ar Amrywiaeth Fiolegol, 2010, yn ystod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol a gynhaliwyd yn Nagoya, Jap谩n yr wythnos ddiwethaf.
Mae Elizabeth yn gyfarwyddwr ar CORALINA, Asiantaeth Gadwraeth o eiddo Llywodraeth Colombia, sydd wedi鈥檌 lleoli yn Providencia, Colombia, y dechreuodd weithio iddi ar 么l graddio o Fangor. UCN (yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur) sy鈥檔 dyfarnu Gwobr y Byd dros Amrywiaeth Fiolegol, a nododd y cyfri鈥檔 么l at darged 2010 ar gyfer gwarchod amrywiaeth fiolegol 鈥 targed a fethwyd o dipyn ar raddfa fyd-eang.
Dyfarnwyd y wobr hon am waith ar Ardal Warchod Forol y Blodau M么r 鈥 gwarchodfa 200,000 hectar yn y Carib卯, sy鈥檔 darparu ar gyfer cymunedau pysgota, fel y gallant bysgota mewn modd cynaliadwy mewn rhai parthau, ochr yn ochr 芒 pharthau 鈥榙im cymryd鈥, 鈥榙im mynediad鈥 a pharthau defnydd cyffredinol. Yn benodol, ceisiodd y project warchod cynefinoedd riffiau cwrel ac adfer poblogaethau o gregyn y frenhines sy鈥檔 bwysig i鈥檙 economi. Hedfanodd Elizabeth i Jap谩n i gasglu鈥檙 wobr o flaen cynulleidfa ryngwladol yn y Gynhadledd bwysig hon ar Amrywiaeth Fiolegol, lle bu rhyw 18,000 o gyfranogwyr yn cynrychioli鈥檙 193 o Bart茂on i鈥檙 Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol. Cytunodd y part茂on 1) i haneru, o leiaf, y raddfa y collir cynefinoedd naturiol, yn cynnwys coedwigoedd, neu, lle bo鈥檔 ymarferol, i leihau鈥檙 raddfa honno i bron i sero; 2) i bennu targed o 17% o fannau daearol ac o dd诺r mewndirol, a 10% o ardaloedd morol ac arfordirol; 3) y bydd Llywodraethau, trwy gadwraeth a gwaith adferol, yn adfer o leiaf 15% o fannau sydd wedi dirywio; 4) y bydd Llywodraethau鈥檔 ymdrechu鈥檔 benodol i leihau鈥檙 pwysau a wynebir gan riffiau cwrel.
Cefnogwyd Elizabeth gan Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol, trwy鈥檙 Cyngor Prydeinig, i astudio ar gyfer yr MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y M么r (MEP), a bu鈥檔 cynnal ei phroject ymchwil project ar fapio cynefinoedd ecosystemau cwrel ym morlynnoedd Mawrisiws, Cefnfor India, Dr John Turner a鈥檙 Athro Colin Jago o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Eigion.
Meddai John Turner, Cyfarwyddwr y Cwrs MEP: 鈥淢ae hon yn gamp glodwiw gan Elizabeth a鈥檌 th卯m yn CORALINA, ac mae鈥檔 bleser gennym ei llongyfarch ar broject neilltuol a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae鈥檔 wych gweld ein graddedigion yn weithgar mewn mentrau cadwraeth penigamp sydd nid yn unig yn gwarchod ecosystemau riffiau cwrel biolegol amrywiol, ond hefyd yn fodd i bobl leol ennill bywoliaeth.鈥
Mae staff Gwyddorau Eigion, myfyrwyr PhD a myfyrwyr MSC Amddiffyn Amgylchedd y M么r wrthi ar hyn o bryd yn ymwneud 芒 nifer o raglenni sydd 芒鈥檙 bwriad o warchod amrywiaeth fiolegol y m么r mewn ecosystemau trofannol. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys projectau newydd ar Fannau Gwarchod Morol Cymunedol yn Nheyrnas Tonga, y M么r Tawel; project Menter Darwin i wella Mannau Gwarchod Morol Sefydledig yn Ynysoedd y Cayman, y Carib卯; a phroject DelPHE/UNESCO-UNITWIN mewn bioamrywiaeth forol a datblygiad cynaliadwy yn Sansibar, Cefnfor India. Gwnaeth 3 myfyriwr MSc eu projectau ymchwil yn Tonga, ochr yn ochr 芒鈥檙 myfyriwr PhD Siola'a Mali Mali, gyda Dr John Turner a鈥檙 Athrawon Mike Kaiser a Gareth Edwards Jones (SENERGY); bu tri myfyriwr MSc yn gweithio yn Ynysoedd y Cayman yn 2009 a 2010, ochr yn ochr 芒鈥檙 myfyriwr PhD Croy McCoy a John Turner, a bydd dau fyfyriwr MSc yn cynnal projectau yn Sansibar yr haf hwn, gyda Dr Turner, DR LeVay a Dr Skov.
Meddai Dr John Turner, 鈥淢ae鈥檙 rhaglenni hyn yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i鈥檔 myfyrwyr MSc wneud ymchwil gymhwysol i fioamrywiaeth y m么r, gan weithio ar y cyd ag asiantaethau cadwraeth ac adrannau llywodraeth gwledydd tramor; trwy hyn, c芒nt brofiad gwych ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus a champau neilltuol o dda, fel a ddangoswyd gan Elizabeth Taylor Jay.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010