Cyn-fyfyriwr Prifysgol 亚洲色吧 yn lansio Cwmni Twristiaeth Bywyd Gwyllt
Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol 亚洲色吧 wedi lansio gwefan sy'n darparu gwybodaeth am fywyd gwyllt Prydain ac yn cynnig gweithgareddau sy'n rhoi鈥檙 cyfle i gwsmeriaid weld eu hoff anifeiliaid yn y gwyllt.
Daeth y syniad gwreiddiol i Robert Brook o Blackpool pan oedd ar ei flwyddyn olaf yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Cyflwynodd syniad fel rhan o gystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander y Brifysgol a dod yn ail. Enillodd 拢500 i ddatblygu鈥檙 busnes ymhellach a phenderfynodd fynd i bartneriaeth 芒'i gefnder, Adam Kinder, dylunydd gwe proffesiynol, a greodd borth Finding Nature.
Dywedodd Robert: "Mae Finding Nature yn ymfalch茂o yn ei ymrwymiad i les anifeiliaid ac rydym wedi cydweithio 芒 threfnwyr teithiau ledled y Deyrnas Unedig i gyflwyno profiadau bythgofiadwy i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn bywyd gwyllt.
"Mae'n wych gwybod bod gennym adnodd sy'n gyfrwng i addysgu pobl am fywyd gwyllt y Deyrnas Unedig. Ond mae鈥檔 gwbl arbennig gallu cynnig gweithgareddau lle gallwch chi brofi bywyd gwyllt yn agos atoch. Mae'n rhywbeth na ellir ei ail-greu 芒 lluniau ar sgrin."
Dywedodd Adam am weithio ar Finding Nature: "Mae'n gysyniad unigryw, ac roedd yn gyffrous i mi fod yn rhan ohono. Roeddwn i鈥檔 gwybod y byddai unrhyw un sydd 芒鈥檙 diddordeb lleiaf mewn bywyd gwyllt wrth eu bodd 芒 rhywbeth fel hyn. "
Mae cwmni Finding Nature wedi'i leoli yn Blackpool, Swydd Gaerhirfryn ac yn cynnig porth ar-lein lle gall ymwelwyr ddysgu am fywyd gwyllt y Deyrnas Unedig yn ogystal 芒'r lleoedd gorau i fynd i鈥檞 fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Sefydlwyd y cwmni ym mis Mai 2017 ac ar hyn o bryd mae'n rhestru dros 100 o rywogaethau anifeiliaid y gellir eu gweld mewn dros 40 o wahanol leoliadau ledled Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2017