Cymysgu dyfroedd yng Nghefnfor y De
Mae Cefnfor y De yn amgylchynu Antartica ac mae'n chwarae rhan allweddol mewn rheoli'r hinsawdd byd-eang. Yma y mae ceryntau'r cefnfor yn dychwelyd i'r wyneb o'r dyfnderoedd, gan gau'r cefnfor byd-eang a gwyrdroi cylchrediad. Mae'r cylchrediad hwn yn gyrru gwres i gyfeiriad y pegwn, sy'n allweddol i'r tywydd cymharol fwyn a gawn yma ym Mhrydain.
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol 亚洲色吧 a'r National Oceanography Centre yn Lerpwl wedi nodi am y tro cyntaf broses newydd sy'n cyfrannu at y d诺r hwn sy'n codi i fyny o'r dyfnder.
Mae'r ymchwil, wedi ei cyhoeddi yn yr American Geophysical Union Journal Geophysical Research Letters ( ), yn cyflwyno'r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf o drefn sy'n galluogi i ddyfroedd dyfnion gael eu cludo i'r wyneb dros lethr cyfandirol yn Antartig.
"Mae haenau i du mewn y cefnfor, gydag arwynebau o ddwysedd cyson yn gwahanu'r haenau o dd诺r. Yng Nghefnfor y De, mae gwyntoedd cryfion yn achosi i'r arwynebau dwysedd hyn ogwyddo at i fyny tuag at yr Antartig. Mae'n hysbys ers tro na allai'r ymlediad araf at i fyny o ddyfroedd ar hyd yr arwynebau dwysedd hyn fod yn gyfrifol am yr holl ymchwydd yma. Damcaniaethwyd y gallai cyfrwng arall - sef cymysgu gwres a mas ar draws yr arwynebau dwysedd hyn - roi llwybr byr," eglurodd Jess Mead Silvester, myfyrwraig PhD Gwyddorau Eigion.
Meddai Dr Yueng-Djern Lenn, prif oruchwyliwr Jess:
"Mae ein gallu i ddarogan cryfder y cefnfor a'i effaith ar hinsawdd yn cael ei lesteirio gan ddealltwriaeth wael o'r prosesau cymysgu sy'n hwyluso trawsffurfiadau lluosog y d诺r sy'n ei yrru. Mae gwaith Jess yn neilltuol bwysig oherwydd mae'n herio patrwm Cefnfor y De drwy gyflwyno tystiolaeth newydd o broses sydd ar goll ar hyn o bryd yn ein darlun o gymysgu dyfroedd yng Nghefnfor y De.鈥
Mae Jess yn gyn ddisgybl o Ysgol Brynrefail a Choleg Llandrillo lle'r enillodd ei Bagloriaeth Ryngwladol. Graddiodd mewn Daearyddiaeth o Brifysgol 亚洲色吧.
Mae'r ymchwil hon yn rhan o PhD Jess Mead Silvester, a oruchwylir gan Dr Yeung-Djern Lenn a'r Athro Tom Rippeth o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 亚洲色吧 a Dr Jeff Polton a Dr Miguel Morales Maquedas o'r National Oceanography Centre, Lerpwl. Cyllidir y PhD gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2014