Cyfrifiadureg 亚洲色吧 yn Ennill Statws GitHub
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi dod yn un o ddim ond saith prifysgol yn y DU sydd 芒 chynghorydd GitHub ardystiedig ar y campws, yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Mae Dr Cameron Gray, darlithydd Seiberddiogelwch ac Arweinydd y Rhaglen Gyfrifiadureg, wedi cael cydnabyddiaeth swyddogol gan GitHub fel cynghorydd ardystiedig. Lansiwyd GitHub, sydd bellach yn eiddo i Microsoft, yn 2008 i ddarparu llwyfan i god ffynhonnell a datblygu meddalwedd yn seiliedig ar system fersiwn Git, sydd bellach yn system safonol yn y diwydiant. Mae eu rhaglen Campus Advisor yn rhoi mynediad am ddim i'r llwyfan i fyfyrwyr ac yn cydnabod ymrwymiad addysgol i adnoddau a phrosesau modern. 鈥淢ae rhaglenni newydd Cyfrifiadureg 亚洲色吧 yn rhoi pwyslais ar ymarfer diwydiannol er mwyn dysgu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i'n myfyrwyr o'r cychwyn cyntaf.鈥 meddai Dr Gray. Ychwanegodd: 鈥淢ae'r bartneriaeth hon gyda GitHub yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddysgu cyfrifiadureg, sy'n berthnasol, yn fodern ac o'r radd flaenaf.鈥
Mae Git, a llwyfan GitHub, yn rhan o elfen ymarferol y cwricwlwm israddedig newydd ar y cwrs BSc. Rhaglen Gyfrifiadureg a'r MComp. Rhaglen Gyfrifiadureg Meistr Integredig. Mae'r ddau gwrs yn cynnig modiwl cysylltiedig 芒 diwydiant 鈥淏usiness and Enterprise Programming鈥 lle mae myfyrwyr yn dysgu am yr arfer gorau ym maes datblygu meddalwedd. Gall y rhai sy'n dymuno gynyddu eu dealltwriaeth o'r offer a'r arferion hyn trwy ddilyn y modiwl 鈥淪oftware Engineering鈥 pwrpasol yn nhrydedd flwyddyn eu cwrs.
Mae Cyfrifiadureg 亚洲色吧 hefyd yn falch o gynnig cwrs BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol fel rhan o gynllun Prentisiaeth Gradd Ddigidol Llywodraeth Cymru. 鈥淢ae ein cwrs Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn gwrs galwedigaethol yn ei hanfod ac yn cynnwys pwyslais mawr ar roi sgiliau cyfrifiadureg ar waith yn y byd go iawn. Bydd y bartneriaeth newydd hon, a'r manteision y mae'n eu cynnig i'n myfyrwyr, yn cyfoethogi profiad ein Prentisiaid Gradd Ddigidol hefyd." meddai Dr. Dave Perkins, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu'r ysgol.
Yn ogystal 芒'r manteision academaidd, bydd myfyrwyr bellach yn cael mynediad am ddim i holl nodweddion GitHub yn ogystal 芒 鈥淪tudent Survival Pack鈥 unigryw sy'n cynnwys mynediad i feddalwedd drwyddedig ychwanegol, prisiau gostyngol ar offer a gwasanaethau, a'r gallu i ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu meddalwedd i gyflogwyr mewn modd cyfrifol. Fel y Campus Advisor, bydd Cameron ar gael i helpu holl fyfyrwyr 亚洲色吧 ddefnyddio GitHub yn eu projectau eu hunain hefyd. 鈥淩wy鈥檔 disgwyl y bydd rhai o鈥檙 cymdeithasau myfyrwyr, fel y Gymdeithas MakerSpace yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig 亚洲色吧, yn achub ar y cyfle hwn i'w projectau allgyrsiol hefyd. Rwy鈥檔 awyddus i weld sut y gallwn ehangu eu gorwelion drwy'r offer hwn sydd bellach ar gael iddynt鈥 ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2020