Cyfathrebu am goed ac ennill cystadleuaeth
Yn ystod COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru, amlygodd yr ymgyrch #CenedlFechanSyniadauMawr nifer o brojectau ymchwil ac arloesedd
Cyflwynodd Theresa Bodner, myfyrwraig PhD yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio yng Nghanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts Prifysgol 亚洲色吧 fideo byr yn esbonio’i hymchwil, sy’n edrych ar ba mor dda mae coed heb eu plannu sy’n tyfu y tu allan i goetiroedd yn sefydlu, a sut y gallem gynnwys coed fel hyn mewn cynlluniau cyffredinol i ehangu coetiroedd.
“Yn ôl adroddiad diweddaraf y llywodraeth, mae tua tri y cant o goed yn tyfu y tu allan i’r coetiroedd hynny sydd wedi’u mapio,” eglurodd Theresa.
“Mae'r rhain yn cynnwys coed sydd wedi cytrefu’n naturiol ar dir oedd heb goed yn flaenorol. Mewn gwlad lle does ond tua 13 y cant o orchudd coetir i ddechrau, mae hynny’n 750,000 hectar o orchudd coed ychwanegol y gellir ei ddefnyddio i gyflawni targedau newid yn yr hinsawdd. Mae hwn yn amlwg yn adnodd gwerthfawr ac yn un nad ydym yn gwybod fawr ddim amdano, gan nad yw'r coed hyn wedi'u cynnwys ar fapiau ffurfiol na chynlluniau plannu.”
Yn y fideo, mae Theresa hefyd yn apelio i wylwyr gysylltu â hi gyda manylion am goed yn tyfu tu hwnt i fannau sydd wedi eu plannu’n ffurfiolYmgeisiodd Theresa gan ei bod hi’n teimlo bod gwyddonwyr yn tanbrisio gwerth esbonio’u gwaith i bobl tu hwnt i faes gwyddoniaeth, fel aelodau’r cyhoedd, rhai mewn sectorau eraill a gwneuthurwyr polisi.
“Roeddwn wedi synnu fy mod wedi ennill. Rwyf wrth fy modd gyda chyfathrebu gwyddoniaeth, yn enwedig mewn fideos byr fel hyn. Rwy’n hynod falch bod nifer fawr o bobl wedi gweld fy fideo. Gallaf godi proffil fy ngwaith ac ymwneud â phobl newydd a’u gwaith hwy.”
Meddai’r Athro Morag McDonald, aelod o’r panel beirniadu:
“Mi wnes i wir fwynhau gwylio’r fideos a oedd yn datgelu amrediad difyr o waith pwysig gan ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru ac yn cyfrannu at ddod i’r afael â newid hinsawdd. Roedd fideo Theresa’n sefyll allan gan ei fod yn afaelgar o’r cychwyn cyntaf, ac yn awgrymu ffyrdd i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at ei hymchwil.”
Mae Theresa’n gobeithio cwblhau ei hymchwil yn fuan yn y flwyddyn newydd ac i gynhyrchu sawl darn newydd o ymchwil o ganlyniad i’w chanfyddiadau.
Meddai:
“Mae nifer o gyrff sydd eisiau defnyddio coloneiddio cynhenid ar eu tir neu sydd eisio eirioli dros ddefnyddio ymestyn naturiol fel opsiwn arall i ymestyn coetir yn dangos diddordeb yn fy ngwaith.”
Ychwanegodd Dr Norman Dandy, Cyfarwyddwr Canolfan Syr William Roberts a goruchwyliwr PhD Theresa:
“Mae Theresa’n ymchwilydd a chyfathrebwraig penigamp, ac mae ei llwyddiant yn y gystadleuaeth hon yn wych! Mae ei hymchwil hi’n amserol iawn gan fod rhagor o sylw yn cael ei roi bellach i’r ffyrdd y gellir ehangu coetiroedd trwy ddulliau sydd dim ond angen ymyriad rheoli gyfyngedig. Mae adfywio a chytrefu naturiol, yn cynnwys gan goed y tu allan i goetiroedd, yn cael ei gymryd yn gynyddol o ddifri fel ffordd o liniaru newid yn yr hinsawdd. Bydd gwaith Theresa a’i dadansoddiad system gwybodaeth ddaearyddol yn sylfaen i ymchwil bellach ym Mangor yn y maes hwn.”
Yn ôl Theresa, sy’n enedigol o Awstria, mae maint 亚洲色吧 yn ei helpu i ganolbwyntio ar ei gwaith,
“Rwy’n gwbl grediniol y gall 亚洲色吧 fod yn un o WIR sefydliadau ymchwil, arloesi a chynaliadwyedd traws-sector y dyfodol - mewn amgylchedd lle gallaf gerdded ar hyd y traeth a dringo mynydd ar yr un diwrnod. Beth arall sydd ei angen ar rywun - yn oes y rhyngrwyd, does dim angen poeni am bellter gofodol bellach, beth bynnag!”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2021