Cydnabyddiaeth I Amaeth A Choedwigaeth Ym Mhrifysgol 亚洲色吧 Yng Nghynghriar Ddiweddaraf Prifysgolion Y Byd
Yn safleoedd uchaf Sicrhau Ansawdd ar gyfer Prifysgolion, mae Prifysgol 亚洲色吧 ymysg y 200 Prifysgol Uchaf yn y Byd am Amaeth a Choedwigaeth. Mae鈥檙 safleoedd yn rhoi ystyriaeth i amrywiaeth o ffactorau, yn cynnwys ymchwil, addysgu ac enw da ymysg cyflogwyr ac academyddion.
Ers mwy na chanrif, mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn ganolbwynt ar gyfer addysgu ac ymchwil ym Mangor, ac maent bellach yn gydrannau academaidd allweddol o fewn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) yn y Coleg Gwyddorau Naturiol yn y Brifysgol.
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth, 鈥渕ae croeso mawr i鈥檙 gydnabyddiaeth hon o statws rhyngwladol uchel a ddyfarnwyd i鈥檔 gwaith hymchwil ac haddysgu mewn amaeth a choedwigaeth. Mae鈥檔 adlewyrchu hanes hir a llwyddiannus gwaith 亚洲色吧 yn y pynciau hyn a hefyd proffil uchel ein gweithgaredd presennol. Trwy ein rhaglen bwysig o ymchwil ac addysg ryngwladol, gallwn ymgorffori鈥檙 wybodaeth a鈥檙 gwaith arloesol diweddaraf i鈥檔 cyrsiau gradd, i鈥檔 projectau ymchwil ac i鈥檙 cyngor a roddwn i lunwyr polis茂au. Mae 亚洲色吧 yn flaengar mewn gwaith ar sialensiau rhyngwladol allweddol ym maes coedwigaeth, yn cynnwys rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd, cadwraeth ar stociau carbon coedwigoedd, a bioamrywiaeth, adferiad coedwigoedd sydd wedi diraddio, a chydrannau economaidd-gymdeithasol rheolaeth ar adnoddau coedwigol fel eu bod yn dwyn buddion teg i bobl leol.鈥
Mae鈥檙 ffaith fod 亚洲色吧 wedi鈥檌 chynnwys yn safleoedd Prifysgolion Uchaf y byd yn adlewyrchu鈥檙 enw da sydd gan y sefydliad, ar raddfa fyd-eang, ym meysydd Amaeth a Choedwigaeth. Er enghraifft, mae myfyrwyr o fwy na 105 o wledydd wedi graddio o Brifysgol 亚洲色吧 mewn coedwigaeth a phynciau cysylltiedig, tra bo ymchwil amaethyddol y Brifysgol wedi datblygu mathau newydd o gnydau sydd bellach yn bwydo miliynau o bobl yn ne Asia. Gan adlewyrchu pwysigrwydd ehangu cyfranogiad, mae 亚洲色吧 hefyd wedi chwarae rhan flaengar yn y gwaith o ddatblygu鈥檙 ddarpariaeth o gyrsiau 么l-radd yn y pynciau hyn trwy ddysgu o bell. Erbyn hyn, gall myfyrwyr astudio ar gyfer MSc mewn Coedwigaeth neu Goedwigaeth Drofannol trwy raglen ddysgu o bell. Er 2011, mae Comisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad wedi dewis y cyrsiau hyn i dderbyn cyllid, fel y gellir cynnig ysgoloriaethau gwerth mwy na 拢12,000 i fyfyrwyr o wledydd y Gymanwlad. Ar hyn o bryd, mae cwrs MSC newydd trwy ddysgu o bell, mewn Diogelwch Bwyd yn yr Amgylchedd Newidiol, wrthi鈥檔 cael ei ddilysu.
Mae Canolfan Ymchwil Henfaes, sawl milltir o Fangor, yn chwarae rhan bwysig yn ei hymchwil amaethyddol a choedwigol, ac mewn gwaith project gyda myfyrwyr. Mae鈥檙 safle 252 erw yn Henfaes yn cyfuno fferm ddefaid weithiol, a reolir ar hyn o bryd gan Gynllun Amaethu Amgylcheddol Tir Gofal, gwarchodfa natur a choedwigol genedlaethol o bwys rhyngwladol, a chyfleusterau ar gyfer ymchwil ac addysgu mewn amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth.
Bu Dave Chadwick, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy, hefyd yn croesawu鈥檙 gydnabyddiaeth. Ychwanegodd, 鈥渂ydd yr her o fwydo poblogaeth gynyddol o fodau dynol mewn hinsawdd sy鈥檔 newid yn gofyn am ddiwygio systemau cynhyrchu presennol a datblygu rhai newydd, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau arloesol a chost-effeithiol. Ein nod ni ym Mangor yw addysgu a hyfforddi darpar-berchnogion tir, rheoleiddwyr, llunwyr polis茂au ac ymchwilwyr, a hynny trwy barhau i gynnwys, o fewn rhaglenni gradd y Brifysgol mewn amaeth, cadwraeth a choedwigaeth, ymchwil a chynlluniau a gydnabyddir yn rhyngwladol鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2013