Cofio鈥檙 Athro Mathemateg Er Anrhydedd, Mike Yates
Rydym ni ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn drist o glywed am farwolaeth ddiweddar yr Athro Mathemateg Er Anrhydedd, Mike Yates.
Wedi鈥檌 fagu ym Mhenmaenmawr, tad Mike oedd y Parch John Yates yn ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧 rhwng 1948-1951. Enillodd Mike radd anrhydedd dosbarth cyntaf a PhD ym Mhrifysgol Manceinion ar raddfeydd annatrusiadwyedd Turing. Gan symud i UDA fel Ysgolor Fulbright ym 1963, treuliodd flwyddyn yr un ym Mhrifysgol Cornell, Ithaca, Efrog Newydd a鈥檙 Sefydliad Uwch Astudiaethau yn Princeton. Dychwelodd i Brifysgol Manceinion fel Darlithydd a phenodwyd ef yn Athro Rhesymeg Mathemategol ym 1978 cyn gadael ym 1989.
Yn gweld gagendor enfawr rhwng ymchwil uwch a鈥檙 ddealltwriaeth boblogaidd o fathemateg, ymunodd 芒鈥檙 mudiad tuag at ddysgu gyda chymorth cyfrifiadur gan arwain at ei gyflogaeth yn y cwmni amlgyfrwng Amaze Ltd yn Lerpwl tan 1999. Yn ystod y cyfnod hwn golygodd y bedwaredd gyfrol a鈥檙 olaf o gasgliad gweithiau Alan Turing a oedd yn canolbwyntio ar Rhesymeg Fathemategol, a gyhoeddwyd gan Elsevier yn 2001. Yn 2000 fe鈥檌 gwahoddwyd gan Athro Prifysgol 亚洲色吧, Ronald Brown, i helpu i gynhyrchu CD ROM ar gyfer Blwyddyn Mathemateg Ewrop 2000, ac yn 2003-4 i adolygu gwefan y Ganolfan Poblogeiddio Mathemateg .
Roedd Mike yn fynyddwr a dringwr creigiau profiadol; ym 1971 ysgrifennodd y Cwm Silyn a Cwellyn Climber鈥檚 Club Guide gyda Jim Perrin a chyflawnodd nifer o esgyniadau cyntaf gan gynnwys West Arete, Craig yr Ogof a Guardian Angel, Craig y Bera, yn ei annwyl Eryri lle bu鈥檔 byw gyda鈥檌 wraig Pat a鈥檌 deulu.
Bydd cydweithwyr Mike yn trefnu colocwiwm Mathemateg i ddathlu bywyd a chyflawniadau Mike yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2021