Canfod Cregyn Gleision cynaliadwy ym M么r Iwerddon
Pan fydd llynges fwyaf Prydain o gychod pysgota cregyn gleision yn mynd allan i'r m么r yn ddiweddarach y mis hwn, eu nod fydd chwilio am had gwerthfawr cregyn gleision. Byddant yn dod 芒'r rhain yn 么l i'r Fenai i dyfu cyn eu casglu i'w hallforio.
Os bydd y project ymchwil newydd hwn ym M么r Iwerddon yn llwyddiannus, efallai mai hwn fydd un o'r troeon olaf y bydd angen i'r llynges fynd allan o Borth Penrhyn ym Mangor i chwilio am had cregyn gleision.
Yn ddiweddar cafodd '' grant o EUR 1M drwy raglen gydweithredu Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd, a dylai hyn roi gwell dealltwriaeth i bysgotwyr a gwyddonwyr o'r ffordd mae larf芒u pysgod cregyn yn teithio o amgylch M么r Iwerddon, a phryd ac ymhle y gellir dod o hyd iddynt.
Gall yr ymchwil hon, a fydd yn cynyddu effeithlonrwydd y llynges, arwain hefyd at ddatblygu marchnad newydd ym Mhrydain i'r cregyn gleision. Gallai ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i archfarchnadoedd ym Mhrydain a'r gadwyn cyflenwi bwyd leol. Wrth edrych at y dyfodol dywed y cwmni y gall hyn fod yn ysgogiad i ddatblygu canolfan leol i gynhyrchu cregyn gleision a fyddai'n darparu'r cynnyrch rhagorol hwn yn lleol a chyflawni galw cynyddol gan y diwydiannau manwerthu a lletygarwch am gynnyrch sy'n dod o ffynonellau lleol.
I Gymdeithas Cynhyrchwyr Cregyn Gleision 亚洲色吧, gr诺p sy'n cynnwys tri o gwmn茂au cregyn gleision 亚洲色吧, y project hwn yw'r diweddaraf mewn partneriaeth ymchwil faith ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧. Mae ymchwil ar y cyd wedi rhoi tystiolaeth wyddonol ac amgylcheddol fanwl i'r cynhyrchwyr cregyn gleision i gefnogi eu diwydiant, gan gynorthwyo'r cynhyrchwyr i gael ardystiad hollbwysig y Marine Stewardship Council am gynaliadwyedd eu gweithgareddau.
Dylai'r project i ymchwilio i batrymau symudiad larf芒u pysgod cregyn ym M么r Iwerddon helpu i leihau costau cael hyd i had pysgod cregyn sy'n cael ei gasglu a'i 'ail-hau' ar draethellau lleidiog, a chynyddu nifer y cregyn gleision a physgod cregyn sydd ar gael i'r diwydiant.
Meddai Trevor Jones ar ran y gr诺p:
"Mae gennym gynnyrch gwerthfawr, maethlon a chynaliadwy.
"Ar hyn o bryd rydym yn treulio llawer o amser yn chwilio am had cregyn gleision gwyllt er mwyn eu tyfu fel y gallwn eu cynaeafu. Bydd gwell dealltwriaeth o lle a phryd y mae'r had cregyn gleision i'w cael yn cynyddu ein heffeithlonrwydd a chynaliadwyedd."
"Bydd gweithio gydag arbenigwyr yn y brifysgol a rhannu dulliau gweithredu gorau o Iwerddon yn ein helpu i gael y fantais fwyaf o'r adnoddau cynaliadwy gwerthfawr rydym yn eu rhannu."
Meddai Dr Shelagh Malham, sy'n arwain yr ymchwil o Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol: "Mae gweithio gyda'n cymheiriaid yn Iwerddon yn rhoi cyfle i ni reoli adnoddau gwerthfawr cyffredin rhwng ein glannau, a gwella ein dealltwriaeth o'r prosesau dan sylw."
"Pan mae'r cregyn gleision yn silio, mae'r larf芒u'n teithio gyda'r cerrynt. Mae lle maent yn setlo yn dibynnu ar y llanw ac amodau'r tywydd ar unrhyw adeg neilltuol," ychwanegodd.
Eglurodd Dr Peter Robins, cymrawd ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
"Gan ddefnyddio uwch-gyfrifiaduron, gall modelau cymhleth ddynwared patrymau cylchrediad y cefnfor a mapio lle bydd silfeydd larf芒u yn cael eu cario ym M么r Iwerddon yn unol 芒'r amodau tymhorol. Gellir rhannu'r wybodaeth hon wedyn 芒'r pystogwyr cregyn gleision fel byddant yn gwybod yn lle a phryd i gael hyd i'r 'had cregyn gleision' hyn. Bydd defnyddio'r manylion a geir drwy'r model, ynghyd 芒 gwybodaeth leol pysgotwyr, yn dangos i ni sut mae'r larf芒u'n nofio, gan ddefnyddio'r cerrynt i geisio sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn goroesi. Byddwn yn ymchwilio i weld hefyd pa mor dda mae'r cregyn gleision yn ymlynu a thyfu ar wahanol fathau o wely m么r ac arwynebau eraill."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017