Bywyd dirgel yr abwydyn du 鈥 mae galw am 'wyddonwyr amatur' i helpu i daflu goleuni ar fywyd rhywiol y rhywogaeth arfordirol bwysig hon.
Mae cariad yn yr aer ar hyd ein harfordiroedd yr hydref hwn ac mae Prifysgol 亚洲色吧 yn gofyn i bobl yng ngogledd Cymru gadw llygad allan am arwyddion o angerdd yn y boblogaeth abwyd du.
Mae'r abwydyn du - Arenicola marina - yn ffynhonnell hanfodol o fwyd i adar hirgoes a physgod, ac mae'r rhywogaeth yn chwarae rhan bwysig mewn pysgodfeydd fel ffynhonnell abwyd.
Ond gan eu bod yn treulio eu bywydau wedi eu claddu鈥檔 ddwfn yn y gwaddod, prin yw鈥檙 cyfleoedd i ddod o hyd i'r cymar delfrydol. Yn lle hynny, mae'r gwrywod yn rhyddhau sberm sy'n ymgasglu mewn 'pyllau' ar wyneb y tywod. Pan fydd y llanw yn dod i mewn, mae鈥檙 sberm yn cael ei olchi i lawr i'r tyllau lle mae'r menywod ac yn ffrwythloni'r ei hwyau.
Mae angen amodau amgylcheddol penodol iawn i sbarduno rhyddhau'r sberm a'r wy ar yr un pryd ac ychydig iawn a wyddys am y broses.
Nawr mae gwyddonwyr yn galw ar aelodau'r cyhoedd i ymuno 芒'r prosiect fel 'dinasyddion-wyddonwyr' a helpu i lenwi'r bylchau yn ein gwybodaeth.
Enw鈥檙 project yw 'Spermwatch', ac mae鈥檔 rhan o broject cadwraeth ehangach o'r enw , partneriaeth rhwng prifysgolion, cyrff cadwraeth a chyrff ymchwil gan gynnwys Prifysgol 亚洲色吧, Prifysgol Newcastle, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac Earthwatch. Mae Capturing our Coast yn rhaglen tair blynedd a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Yn 么l Prif Ymchwilydd Capturing our Coast, yr Athro Stuart Jenkins o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 亚洲色吧 鈥淏ydd unrhyw un sy'n mynd am dro ar lanw isel ar draeth tywod yn gyfarwydd 芒 thwmpathau bychan troellog yr abwyd du. Mae'r prosiect hwn yn caniat谩u i ni, drwy ennyn diddordeb cannoedd o wyddonwyr amatur, gael gwell dealltwriaeth o'u prosesau atgenhedlu o amgylch y DU. Ni fyddai arsylwadau ar yr un pryd dros ardal ddaearyddol eang yn bosibl drwy unrhyw ddull arall.鈥
Dywedodd Dr Jacqui Pocklington, Cydlynydd y Prosiect o Brifysgol Newcastle: "Mae hon yn ffordd wych i bobl gymryd rhan mewn ymchwil wyddonol sy'n helpu i warchod rhywogaethau morol yn uniongyrchol. Heb gymorth y cyhoedd, byddai'n cymryd blynyddoedd i gasglu鈥檙 math o wybodaeth sydd ei hangen felly mae pob darn o ddata y mae鈥檙 cyhoedd yn ei gasglu yn hanfodol bwysig.
Dywedodd Megan Evans, Sefydliad Earthwatch: 鈥淢ae projectau fel Capturing our Coast yn bwysig, gan fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i warchod yr amgylchedd morol, a dylai pawb gael cyfle i gyfrannu.
Mae'r astudiaeth yn dechrau gyda digwyddiad lansio ar draeth Llanfairfechan ar 1 Hydref (rhwng 3pm a 6pm) ac mae pum cyfnod penodol dros y misoedd nesaf lle gofynnir i bobl gasglu data. Dylai gymryd tua 45 munud a byddai鈥檔 ddelfrydol fel rhan o dro ar y traeth - y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho llyfr cyfarwyddyd o a dechrau cofnodi.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2016