Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar argaeledd dŵr yn y dyfodol ar gyfer ynni dŵr a chyflenwad dŵr cyhoeddus yng Nghymru
Gall Cymru wynebu heriau i gyflenwi dŵr cyhoeddus a llai o botensial i gynhyrchu pŵer dŵr yn y dyfodol yn ôl ymchwil newydd. Mae canfyddiadau astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ymchwilwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn dangos y bydd argaeledd dŵr yng Nghymru yn dod yn fwy tymhorol oherwydd newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Cyhoeddwyd y papur yn y Journal of Hydrology: Regional Studies (), ac roedd yn asesu effaith y sefyllfa waethaf o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ar hydroleg dau ddalgylch afon yng Nghymru: y Conwy a’r Tywi.
Gan ddefnyddio Data UKCP18, sef yr amcanestyniadau hinsawdd diweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig o Swyddfa Dywydd Canolfan Hadley, efelychodd yr ymchwilwyr y llif dyddiol posib yn afonydd Conwy a Thywi ar gyfer y cyfnod 2021 i 2079 gyda'r Offeryn Asesu Pridd a Dŵr. Yna defnyddiwyd y llifoedd tybiedig hyn i gyfrifo faint o ddŵr fyddai ar gael bob dydd i'w dynnu mewn 25 o safleoedd ynni dŵr llif afon yn y ddau ddalgylch, ac mewn un lleoliad tynnu dŵr ar gyfer cyflenwad cyhoeddus ar yr afon Tywi. O ran cyflenwad dŵr cyhoeddus, dadansoddwyd tair sefyllfa bosib o alw am ddŵr yn y dyfodol gan ddefnyddio'r system Gwerthuso a Chynllunio Dŵr: galw cynyddol (yn seiliedig ar berthnasoedd hanesyddol rhwng tymheredd dyddiol a'r galw am ddŵr), dim newid, a gostyngiad yn y galw (yn seiliedig ar ragamcanion galw Dŵr Cymru).
Canfu'r astudiaeth, ym mhob sefyllfa bosib o alw yn y dyfodol, fod cynnydd yn nifer y diwrnodau bob blwyddyn pan fydd llif yr afon yn rhy isel i fodloni'r galw am gyflenwad dŵr cyhoeddus, ac y byddai angen rhyddhau dŵr ychwanegol o gronfeydd i fyny'r afon i wneud iawn am hynny. O ran ynni dŵr, bu gostyngiad yn nifer y diwrnodau y flwyddyn pan fo'n bosibl cynhyrchu ynni, ynghyd â gostyngiad yng nghyfaint y dŵr blynyddol sydd ar gael i'w dynnu, gan arwain at golli'r potensial i gynhyrchu ynni. Roedd newidiadau yn argaeledd dŵr yn fwyaf amlwg yn y tymor canolig (2021–2054), ac arafodd gyfradd y newid ar ôl 2060. Yn ogystal, cynyddodd argaeledd dŵr yn y dyfodol yn nhymhorau'r gaeaf a'r gwanwyn o'i gymharu â'r sefyllfa sydd ohoni, ond roedd y gostyngiadau mwy yn y dŵr sydd ar gael ar gyfer tymhorau'r haf a'r hydref yn gorbwyso'r cynnydd hwn.
Eglurodd Dr Rhichard Dallison, ymchwilydd ôl-ddoethurol Dŵr Uisce ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac awdur arweiniol y papur: “Gan fod cymaint o sectorau yng Nghymru yn ddibynol ar ddyfroedd wyneb, mae'n hynod bwysig disgrifio natur y newidiadau i lif dŵr a achosir gan newid yn yr hinsawdd cyn belled ag y bo hynny’n bosib. Mae cael dealltwriaeth dda o sut yr effeithir ar amlder a maint llifoedd dŵr uchel ac isel eithafol, er enghraifft, yn hanfodol er mwyn deall sut yr effeithir ar weithgarwch ynni dŵr, gyda'r llifoedd dŵr hyn yn chwarae rhan bwysig o ran faint o ynni y gellir ei gynhyrchu, a phryd. Mae ein canlyniadau'n awgrymu cyfraddau newid cyflymach yn argaeledd dŵr yn y tymor canolig, i'r 2050au, gyda chyfradd y newid yn arafu ar ôl hyn, gan awgrymu y gallai fod angen gweithredu yn fuan i liniaru'r newidiadau a ragwelir."
Ychwanegodd Dr Sopan Patil, Darlithydd mewn Modelu Dalgylchol a chyd-awdur y papur: “Mae amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd yn awgrymu y bydd llif afonydd yn newid ledled y Deyrnas Unedig, nid yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ni ddeellir yn llawn eto beth yw goblygiadau'r newidiadau rhanbarthol hyn yn lleol, yn y lleoliadau tynnu dŵr. Mae methodoleg ein hastudiaeth yn gosod patrwm gwych ar gyfer dadansoddi effeithiau newid yn yr hinsawdd mewn lleoliadau tynnu dŵr penodol. At hynny, mae'n ddigon hyblyg i gyfrif am amrywiadau yn yr amcanestyniadau galw ac yn anghenion tynnu dŵr gwahanol ddefnyddwyr dŵr."
Ychwanega Dr Prysor Williams, Prif Ymchwilydd Dŵr Uisce ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a chyd-awdur y papur: “Rydym yn falch o weld cyhoeddi’r papur hwn gan ei fod yn berthnasol i gynifer o bynciau sydd o bryder gwirioneddol. Caiff Cymru yn aml ei hystyried yn wlad sydd â digonedd o ddŵr. Fodd bynnag, mae ein gwaith wedi dangos y gallai hyn newid yn y dyfodol, gydag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pwysig amlwg.”
Mae Dŵr Uisce yn brosiect ar y cyd rhwng Coleg y Drindod Dulyn yn Iwerddon a Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yng Nghymru, gyda’r prif nod o wella pa mor effeithlon y dosberthir dŵr yn y ddwy wlad. Mae gan y tîm brofiad helaeth mewn technoleg ynni, asesiadau effaith amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd a chydweithio gyda byd busnes, gan gyfrannu gwahanol safbwyntiau i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir. Mae'r swydd wedi ei chyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Interreg Cymru-Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2021