Bydd Ellie yn y ras!
Mae Ellie Frost, sy鈥檔 fyfyriwr peirianneg electronig wedi ei derbyn ar Ysgoloriaeth Peirianneg gwerthfawr o bwys.
Derbyniodd Ellie鈥檙 newyddion ei bod yn llwyddiannus wrth cael ei derbyn ar Raglen Ysgoloriaeth Women in Engineering Prifysgolion Santander tra鈥檔 mynychu digwyddiad yn Silverstone yn ddiweddar. Cyhoeddwyd enwau鈥檙 myfyrwyr llwyddiannus gan Brif Weithredwr Santander UK, Nathan Bostock a'r llysgennad Jenson Button yng nghystadleuaeth fyd-eang 2019 Formula Student.
Mae'r rhaglen Ysgoloriaethau STEM gyntaf a lansiwyd gan Santander UK yn ymrwymo i gefnogi myfyrwyr peirianneg benywaidd mewn prifysgolion ledled y wlad. Nod y fenter newydd yw cefnogi a chymell mwy o fenywod i ddechrau gyrfa yn niwydiant peirianneg y DU, gan ymateb i'r prinder mewn sgiliau sy'n wynebu sector peirianneg y wlad ar hyn o bryd.
A hithau鈥檔 ugain oed, mae Ellie yn un o 30 o fyfyrwyr yn y DU a fydd yn cofrestru ar raglen ddwy flynedd sy鈥檔 rhoi cymorth benodol i beirianwyr benywaidd, gyda'r nod o roi'r offer a'r adnoddau y bydd eu hangen ar y myfyrwyr er mwyn llwyddo ar 么l gadael y brifysgol.
Wrth edrych yn 么l ar weithgareddau鈥檙 penwythnos, dywedodd Ellie:
鈥淩oedd yr holl ddigwyddiad yn wych ac roedd pawb yn hyfryd, roedd yn arbennig o braf cwrdd 芒 llawer o ferched eraill mewn peirianneg a chreu cymuned ymysg pawb yno. Roedd y cysylltiadau a wnaed yn anhygoel, yn enwedig y sgyrsiau a gefais gyda merched blaenllaw yn y maes fel Nikki Rimmington, is-lywydd a'r prif swyddog cynllunio yn Aston Martin, a eisteddodd wrth ein bwrdd ar 么l cinio. Rwy'n credu y bydd y cyfleoedd a roddodd y digwyddiad i ni yn helpu pawb yn y digwyddiad drwy gydol ein gyrfaoedd. 鈥
Dywed am ei phwnc:
鈥淩wyf wrth fy modd yn gwybod sut mae pethau'n gweithio ac rwy'n gobeithio yn y dyfodol i weithio at greu dyfodol cynaliadwy gydag ynni adnewyddadwy.鈥
Dywedodd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Santander Universities UK:
鈥淧leser yw cael lansio ein Ysgoloriaethau STEM unigryw i gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr benywaidd ledled y DU. Ar 么l gweithio'n agos gyda thimau Formula Student ar draws ein prifysgolion partner, rydym yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu myfyrwyr peirianneg benywaidd wrth iddynt edrych ar yrfaoedd yn y diwydiant. Rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen yn eu cefnogi wrth iddynt gyrchu eu gyrfaoedd uchelgeisiol.鈥
Bydd Ellie rwan yn elwa ar raglen gymorth dwy flynedd sy'n cynnig: ysgoloriaeth o 拢 1,500; profiad tramor mewn sefydliad peirianneg blaenllaw; digwyddiadau rhwydweithio unigryw gydag arweinwyr benywaidd amlwg yn y diwydiant; aelodaeth o Gymdeithas Peirianneg y Menywod; a chynlluniau mentora ac interniaeth trwy rwydweithiau ehangach Santander.
Yn ogystal 芒'i chariad tuag at beirianneg, dewisodd Ellie, o Hornby, Lancaster, sy鈥檔 gyn-ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Kirkham, astudio ym Mangor oherwydd y dewis enfawr o weithgareddau awyr agored yma.
Fel partner Prifysgolion Santander, mae 亚洲色吧 yn gallu enwebu myfyrwyr ar gyfer y Cynllun.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019