Bragu Cwrw Crefft Cynaliadwy yng Nghymru
Mae gwaith ymchwil marchnata diweddar wedi dangos fod y nifer o ddiod alcohol sydd yn cael ei yfed ym Mhrydain wedi gostwng o 18% ers 2004. Yn gyffredinol mae鈥檙 sector bragu wedi gweld gostwng ar y cyfan, ond o fewn y sector cwrw crefft /bragdai bychan mae tyfiant iach wedi ei nodi pob blwyddyn gan y Society of Independent Brewers.
Mae mwy o fragdai wedi eu sefydlu dros y cyfnod diweddar nac unrhyw amser ers 70 mlynedd, sef dros 1800 ym Mhrydain hyd at 2015 a 鈥榙oes dim arwydd bod y twf yma yn y sector yn arafu na鈥檙 galwad am y cwrw lleol yn lleihau.
Mae ymchwil PhD yn cael ei gynnal ar gynaliadwyedd ar gwrw crefft yng Nghymru yn yr Ysgol Amgylchedd Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Bydd y gwaith yn seiliedig ar wybodaeth o fragdai bychan ar draws Cymru gyfan ac mae wedi cael ei ariannu trwy gynllun KESS2.
Penodwyd Dyfed Morgan sydd yn wreiddiol o Gricieth yn ddiweddar trwy bartneriaeth ariannu ar gyfer yr ymchwil gyda Llywodraeth Cymru (Bwyd a Diod) a bragdai bychan lleol.
Dywedodd Dyfed: 鈥淢ae gennyf ddiddordeb mawr yn y diwydiant bragu, ac ar gyfer fy nhraethawd hir fy nghwrs MBA yn 2015, mi wnes i ymchwil i'r diwydiant bragu crefft ficro. Fy amcanion i oedd deall yn well lwyddiant y bragdai crefft yn yr ardal - sut maent wedi datblygu dros y blynyddoedd, a'u hagwedd tuag at rwydweithio gyda busnesau eraill yn y diwydiant i lwyddo.
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o gael y cyfle i aros yn y maes bragu, a bydd y gwaith ymchwil newydd yma yn edrych ar 么l traed amgylcheddol bragdai yng Nghymru a hefyd yn dadansoddi鈥檙 manteision i鈥檙 economi ardal leol sy鈥檔 cael ei greu gan y bragdai lleol. Mae鈥檙 prosiect yn un Gymru gyfan ac yr wyf yn awyddus i gysylltu 芒 bragwyr o bob ardal. Hyd yn hyn, mae鈥檙 ymateb wedi bod yn bositif iawn hefo llawer o fragwyr 芒 diddordeb yn eu mesuriad amgylcheddol. Nid yn unig y bydd y canlyniadau yn ddifyr o safbwynt academaidd, ond bydd hefyd yn ddefnyddiol oherwydd bydd modd dangos cyfleoedd i鈥檙 bragdai arbed arian.鈥
Mae鈥檙 prosiect yn cael ei gyd-arolygu gan Dr Eifiona Thomas Lane a Dr David Styles ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Meddai Dr Lane: 鈥淵n y prosiect ymchwil gweithredol yma sydd yn dibynnu ar bartneriaeth gyda chwmn茂au lleol, byddem yn defnyddio鈥檙 wybodaeth bydd yn cael ei rannu gan y bragwyr i gefnogi cynhyrchu mwy cynaliadwy ac felly mwy cystadleuol. Oherwydd hyn mae鈥檙 ymchwil yma yn arloesol ac yn eithaf cynhyrfus o ystyried y gwahaniaeth y gall ei wneud i fragwyr crefft Cymru a鈥檙 sector fragu ehangach. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio a鈥檙 bragwyr unigryw sydd gennym ar draws Cymru a hefyd gyda鈥檙 gymuned cwrw crefft yn fwy byd eang.鈥
Mae鈥檙 Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol 亚洲色吧 ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe鈥檌 cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2017