Biotechnoleg ar gyfer Plaleiddiaid
Mae Prifysgol 亚洲色吧 ar y cyd 芒 chwmn茂au Almac Group a Hockley International wedi ennill grant i ddatblygu plaleiddiad organig. Cychwynnir y gwaith yng y Brifysgol a labordai Almac yng Ngogledd Iwerddon fis Medi.
Y project hwn fydd project cyntaf y Coleg ym maes Bioleg Synthetig (bioleg wedi'i seilio ar ddefnyddio ensymau) a bydd yr ymchwil yn dod 芒 拢0.5M i Brifysgol 亚洲色吧 dros 3 blynedd. Cyllidir yr ymchwil hon, sy'n werth 拢1.25M, drwy'r Biotechnology & Biological Sciences Research Council a'r Technology Strategy Board a'i nod yw dod 芒 phlaleiddiad naturiol newydd i'r farchnad a gynhyrchir drwy ddefnyddio olew naturiol.
鈥淵n y project hwn bydd cydweithio agos rhwng y Brifysgol, y Ganolfan Biogyfansoddion a 2 bartner masnachol - Almac a Hockley International,鈥 eglurodd Dr Viacheslav Tverezovskiy, sy'n arwain yr ymchwil o'r Ganolfan Biogyfansoddion.
Mae esblygiad naturiol wedi darparu ystod eang o ensymau i ficrobau i'w galluogi i drosi llawer o fiofoleciwlau sydd ar gael ym myd natur. Yn ystod y project hwn bydd yr Athro Peter Golyshin a Dr Tran Hai o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn defnyddio ensymau microbaidd i gynhyrchu cyfansoddion bioactif o borthiant rhad.
Meddai'r Athro Tom Moody, Pennaeth Biocatalysis a Chemeg Isotopau yn Almac, "Mae'r project yma'n ein galluogi i ychwanegu at yr arbenigedd a phrofiad sydd gennym ac yn ymochrol gydag ein strategaeth o ddatblygu technoleg ensymau arloesol. Bydd t卯m o wyddonwyr yn ein pencadlys yn cydweithio gyda 亚洲色吧 a Hockley ac rydym wedi cyffroi i fod yn rhan o'r project unigryw yma. Bydd y datblygiad o dechnoleg ensymau penodol yn cyfoethogi'r nid yn unig y project, ond technoleg ym Mhrydain."
Ychwanegodd Frank Howard, Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog Hockley International, "Mae Hockley wedi gweithio gyda'r t卯m cyfeillgar a phroffesiynol yn y Ganolfan Biogyfansoddion am bedair blynedd ar broject KTP mawr a rhai cynlluniau ymchwil llai. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at ddechrau project mawr newydd tair blynedd mewn bioleg synthetig gyda 亚洲色吧 ac Almac, ac yn sicr bydd hwn yn gyfnod cyffrous a heriol yn wyddonol i ni i gyd."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014