Aur i godwyr pwysau Prifysgol 亚洲色吧
Bu myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 yn cymryd eu lle ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion a Cholegau Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol St Mary鈥檚 yn Twickenham yn ddiweddar.
Bu dros 100 o godwyr pwysau, hyfforddwyr a gwylwyr yn bresennol yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod gyda chynrychiolwyr o dros hanner cant o brifysgolion a cholegau.
Enillodd Stephanie Foster, 21 oed o Wigan, fedal aur yn y categori dan 90Kg i ferched. Mae鈥檙 maes codi pwysau yn newydd i Steph sy鈥檔 fyfyrwraig drydedd flwyddyn yn astudio Ecoleg Tir a M么r Gymhwysol. Bu鈥檔 cystadlu am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2017 lle daeth yn Bencampwraig Agored Cymru.
Dywedodd Steph: "Rwyf wrth fy modd yn codi pwysau ac rwyf yn falch iawn o'r hyn rwyf wedi ei gyflawni trwy gadw cydbwysedd rhwng hyfforddi a fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol. Mae ennill y gystadleuaeth hon yn golygu llawer i mi, ac mae鈥檔 helpu gyda momentwm hyfforddi wrth symud tuag at Bencampwriaethau Prydain yn yr haf."
Nod Steph yn y tymor byr yw cyrraedd y podiwm ym Mhencampwriaethau Prydain, ac yn y pendraw mae鈥檔 gobeithio cynrychioli Prydain mewn cystadleuaeth ryngwladol a chystadlu yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad yn Birmingham yn 2022. Yn ystod ei thair blynedd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 mae Steph wedi ennill medalau aur yng Nghystadlaethau Prifysgolion a Cholegau Prydain mewn rhwyfo a chodi pwysau mewn tair cam (powerlifting).
Enillodd Michael Farmer, 18 oed o Gaerffili, fedal aur yn y categori 69Kg i ddynion. Mae Michael yn astudio gradd mewn Daearyddiaeth ac mae鈥檔 un o鈥檙 rhai sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol 亚洲色吧.
Dywedodd Michael: "Bu鈥檙 hyfforddi yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth yn wych, gyda phopeth yn disgyn i鈥檞 le ac rwyf yn gryfach nag erioed. Mae ennill y gystadleuaeth wedi llawer o foddhad i mi, yn ogystal ag arddangos y cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd ym Mangor a鈥檙 gallu i gynhyrchu athletwyr ar y lefel uchaf. Ar 么l ennill dros y penwythnos, rwyf yn awr yn fwy na chymwys i gystadlu yng Nghystadleuaeth Iau Ewrop a gynhelir yn La Coruna, Sbaen ym mis Gorffennaf a Phencampwriaethau Prifysgolion y Byd yng Ngwlad Pwyl ym mis Medi, sy'n golygu fy mod yn cael cyfle i gynrychioli fy ngwlad a Phrifysgol 亚洲色吧 ar lefel ryngwladol."
Nod Michael yn y tymor hir yw ennill medalau yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.
Dywedodd Iona Williams, Rheolwr Datblygu Chwaraeon ym Mhrifysgol 亚洲色吧: "Rydym yn falch iawn o lwyddiannau Steph a Michael. Mae gan Steph ddoniau naturiol mae鈥檔 amlwg ac mae鈥檔 cyd-weithio鈥檔 dda gyda鈥檙 codwyr pwysau eraill sy鈥檔 hyfforddi yng Nghanolfan Brailsford. Mae Michael hefyd yn mynd o nerth i nerth ac rydym yn edrych ymlaen at ei gefnogi ym Mhencampwriaethau Ewrop a Phencampwriaethau'r Byd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018