Arbenigwyr a disgyblion ysgolion lleol i gyd-drafod Argyfwng Hinsawdd
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn croesawu disgyblion o ysgolion lleol i Uwchgynhadledd yr Ifanc ar Newid Hinsawdd i'w chynnal yn y Brifysgol heddiw.
Wedi i鈥檙 Brifysgol ymuno 芒'r nifer o sefydliadau ledled y byd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r Brifysgol yn awyddus i weithio ar ddatrusiad ac mae鈥檔 angenrheidiol gwneud hynny ar y cyd 芒 phlant a phobl ifanc Cymru.
Bydd y digwyddiad yn dod 芒 disgyblion o Ogledd Cymru ynghyd ag amrediad o arbenigwyr, gwleidyddion, gweithredwyr a busnesau i rannu gwybodaeth a thrafod y dyfodol y mae plant a phobl ifanc am ei weld.
Bydd y prif ddigwyddiad yn rhoi llwyfan i wyddonwyr newid hinsawdd mwyaf blaenllaw Prifysgol 亚洲色吧, gan drafod popeth o lygredd plastig i doddiant y capiau i芒. Byddant yn helpu'r plant i ddeall y wyddoniaeth gymhleth a鈥檙 materion byd-eang sy'n gysylltiedig 芒'r argyfwng newid yn yr hinsawdd, ac yn helpu'r plant i wneud synnwyr ohono er mwyn eu grymuso i wneud newidiadau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Nia Young, o鈥檙 Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol a drefnodd y digwyddiad:
鈥淔el y nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae gan blant yr hawl i fynegi barn ar faterion sy'n effeithio arnynt. Prin nad oes llawer o faterion sy'n debygol o gael effaith mor ddifrifol ar ddyfodol plant na chyflwr yr amgylchedd. Rydym wrth ein bodd i gael gweithio gyda'n cydweithwyr yn y Coleg Gwyddorau鈥檙 Amgylched a Pheirianneg a'n Lab Cynaliadwyedd i ddarparu fforwm lle gellir clywed a pharchu barn disgyblion.鈥
Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn galluogi academyddion 亚洲色吧 i wrando ar lais ieuenctid Cymru ar y mater o bwys difrifol hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019