Adolygu adnoddau bioynni ar gyfer adeiladu a defnyddiau eraill ar wah芒n i ynni
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi cael ei dewis i arwain consortiwm i gyflwyno adolygiad ar 'Bosibilrwydd defnyddio adnoddau bioynni ar gyfer adeiladu a defnyddiau eraill ar wah芒n i ynni' ar gyfer y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, corff ymgynghorol anllywodraethol. Bydd yr adolygiad hwn yn cyfrannu at Adolygiad Bioynni diwygiedig 2018, a gyhoeddir gan y yn yr hydref.
Mae'r consortiwm wedi dod ag arbenigwyr blaenllaw at ei gilydd mewn deunyddiau coed a bio-ddeunyddiau (BC), Asesu Cylch Oes a Datganiadau Cynhyrchion Amgylcheddol (JCH Industrial Ecology, Renuables) a chyfrifo a disgowntio carbon (Yr Athro Colin Price). Bydd y t卯m yn cyflwyno adolygiad o ddefnydd biomas ym Mhrydain a rhwyddineb cael gafael arno yma, a'i ran posibl mewn strategaethau gostwng nwyon t欧 gwydr. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys adolygiad trylwyr o gyfrifo carbon wrth ddefnyddio carbon sydd wedi'i ddal a'i storio (coed) wrth adeiladu.
Dywedodd Dr Graham Ormondroyd, Pennaeth Ymchwil Deunyddiau yn y Ganolfan Biogyfansoddion:
"Drwy ein cysylltiadau gyda'r diwydiant a chymdeithasau diwydiannol, bydd y t卯m yn gallu rhoi dadansoddiad manwl o'r sector, a gwerthusiad cadarn o fanteision amgylcheddol y defnydd cynyddol o goed wrth adeiladu. Mae'n gyfle gwych ih Brifysgol 亚洲色吧 helpu i siapio'r polisi o amgylch stoc adeiladu yn y dyfodol tuag at adeiladu gwyrdd a'r defnydd o goed."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018