Academydd o Fangor yn para鈥檔 un o Bencampwyr Rafftio D诺r Gwyn Ewrop
Mae academydd o Brifysgol 亚洲色吧 wedi cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Rafftio D诺r Gwyn Ewrop 2016 yn Tacen, Slofenia yn ddiweddar.
Mae Dr Suzie Jackson, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, wedi bod yn cynrychioli Prydain yn nh卯m rafftio d诺r gwyn y merched ers bron i bedair blynedd. Daeth t卯m Prydain yn fuddugol ym Mhencampwriaethau Ewrop yn ddiweddar, gan gadw eu teitl fel Pencampwyr Ewrop ar 么l eu llwyddiant yn Bosnia a Herzegovina yn 2015.
Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys pedair ras; ras gyflym yn erbyn y cloc, ras benben, ras slalom ac, yn olaf, ras ddygnwch i lawr afon. Cafodd t卯m merched Prydain ddechrau da i鈥檙 gystadleuaeth; nhw oedd y t卯m cyflymaf yn y ras yn erbyn y cloc, ac fe wnaethon nhw ennill pob ras benben, gan guro t卯m Rwsia yn y rownd derfynol. Cynhaliwyd y ras slalom ar yr ail ddiwrnod lle gorffennodd t卯m Prydain yn bedwerydd. Gyda thair ras wedi eu cwblhau, roedd t卯m Prydain yn dechrau'r ras ddygnwch olaf yn yr ail safle, chwe phwynt y tu 么l i Rwsia. Gwnaeth y t卯m eu gorau glas yn ystod y ras olaf, gan oddiweddyd Rwsia a鈥檙 holl dimau eraill i ennill y fedal aur, ac arweiniodd hynny at fod yn fuddugol yn y gystadleuaeth gyfan.
Dywedodd Dr Jackson: "Fel t卯m, rydym wrth ein boddau ein bod wedi cadw ein teitl fel Pencampwyr Rafftio Ewrop! Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r Ysgol Gwyddorau Eigion am fod mor gefnogol ac am ganiat谩u鈥檙 amser imi gystadlu. Rydym bellach yn edrych ymlaen at bencampwriaethau鈥檙 byd yn Al Ain yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ym mis Hydref lle rydym yn gobeithio ennill medal."
Straeon perthnasol:
Pencampwraig Rafftio D诺r Gwyn Ewrop yn Ennill Doethuriaeth
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016