A yw鈥檙 Arctig yn dod o鈥檌 aeafgwsg?
Efallai bod y gaeafau wedi bod yn fwy garw yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar oherwydd bod llai o rew dros Gefnfor yr Arctig.
Mae鈥檙 rhew wedi bod yn cadw newidiadau yn nhymheredd y m么r o鈥檙 atmosffer. Ond gallai鈥檙 ffaith fod y rhew yn cilio gael effaith ar ein hinsawdd.
鈥淢ae rhai hinsoddegwyr yn credu bod absenoldeb rhew m么r i鈥檙 gogledd o Siberia yn yr hydref y llynedd wedi galluogi i鈥檙 m么r agored gynhesu鈥檙 atmosffer, gan newid patrymau鈥檙 gwynt a datblygu system o wasgedd atmosfferig uchel dros Siberia. Mae hyn wedyn yn arwain at aer oer yn cael ei yrru i鈥檙 de o鈥檙 Arctig, dros ogledd Ewrop鈥, eglurodd Dr Tom Rippeth o Brifysgol 亚洲色吧.
Yn ychwanegol at hyn, mae gwyddonwyr y Brifysgol newydd ddarganfod nad yw Cefnfor yr Arctig mor dawel a oedd eigionegwyr yn arfer ei gredu, a gallai hynny hefyd effeithio ar yr hinsawdd.
Mae mesuriadau newydd gan Yueng-Djern Lenn, Chris Old a Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn dangos am y tro cyntaf bod pyliau achlysurol o dyrfedd o dan y rhew yn cymysgu haenau d诺r cyfagos gyda鈥檌 gilydd.
Yn 么l y canfyddiadau newydd, mae llawer mwy o gymysgu'n digwydd pan nad oes rhew m么r yn gwarchod wyneb y m么r rhag yr atmosffer.
Mae achosion o gymysgu o鈥檙 fath yn bwysig. Dan y rhew, gallent ddod 芒 gwres o du mewn i'r m么r i gynhesu ochr isaf y rhew, ac yn y d诺r agored, gallent fynd 芒 gwres o鈥檙 haenau ar y wyneb, sydd wedi eu cynhesu gan yr haul, i鈥檙 m么r.
Dywedodd Dr Tom Rippeth: 鈥淢ae鈥檙 canlyniadau hyn yn arwyddocaol iawn gan eu bod yn gymorth i ni ddeall swyddogaeth rhew m么r yn yr Arctig, ac yn arbennig sut mae鈥檔 effeithio ar faint o wres sy鈥檔 cael ei gyfnewid rhwng y m么r a鈥檙 atmosffer.鈥
鈥淢aent yn awgrymu y bydd Cefnfor yr Arctig yn llawer mwy aflonydd wrth i鈥檙 byd gynhesu. Rydym eisoes wedi gweld lleihad mawr yn y rhew sy鈥檔 gorchuddio鈥檙 m么r, yn enwedig yn ystod yr haf, ac felly mae llawer mwy o gymysgu鈥檔 digwydd o ganlyniad i hynny.鈥
鈥淓fallai bod yr Arctig yn dod o鈥檌 aeafgwsg, ac mae'n rhaid i ni ofyn faint o effaith fydd hyn yn ei gael ar ein hinsawdd yn y Deyrnas Unedig."
Yn wir mae rhai gwyddonwyr yn credu ein bod eisoes efallai yn teimlo effaith y ffaith fod rhew Cefnfor yr Arctig yn diflannu, trwy'r gaeafau mwy garw rydym wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
DIWEDD
16.3.11
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2011