30 Years of Mathematics Master Classes
Mae鈥檙 Dosbarthiadau Meistr Mathemateg yn dathlu yn dathlu eu 30ain flwyddyn. Mae鈥檙 rhain yn sesiynau ymarferol a rhyngweithiol cyffrous a arweinir gan arbenigwyr ym myd addysg a diwydiant ar gyfer pobl ifanc frwdfrydig a dawnus ar draws Gogledd-Orllewin Cymru. Mae鈥檙 sesiynau unigryw hyn yn mynd y tu hwnt i鈥檙 cwricwlwm ysgol ac yn dod 芒 mathemateg, cyfrifiadureg a pheirianneg yn fyw mewn pynciau annisgwyl, megis celfyddyd a cherflunio, cyfrifiadureg, dylunio, meddygaeth a hyd yn oed cryptograffeg, sef y gelfyddyd o warchod gwybodaeth trwy ei hamgryptio ar ffurf annarllenadwy, o鈥檙 enw testun seiffr.
Bob blwyddyn, mae鈥檙 dosbarthiadau meistr yn anelu at agor llygaid rhyw 50 o bobl ifanc i gyffro, mantais a gwerth y pynciau hyn ac, yn eu tro, ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, mathemategwyr a pheirianwyr.
Eleni, Magnox a noddodd y dosbarthiadau, sy鈥檔 cael eu cefnogi gan y Sefydliad Brenhinol, a cafodd eu noddi gan Magnox eleni. Cymerodd Dirprwy Gyfarwyddwr Safle Atomfa鈥檙 Wylfa, Gordon Malcolm, ran yn un o鈥檙 sesiynau.
Meddai Gordon, 鈥淢ae鈥檔 bleser gan Magnox gefnogi Dosbarthiadau Meistr Prifysgol 亚洲色吧 trwy gynllun economaidd-gymdeithasol Magnox, sy鈥檔 gwneud gwaith gwych wrth gefnogi鈥檙 cymunedau y mae鈥檔 gweithio o鈥檜 mewn. Mae mathemateg yn sylfaenol i gymaint o yrfaoedd cyffrous ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg neu fusnes. Mae鈥檔 wych o beth gweld pobl ifanc leol yn mwynhau鈥檙 sesiynau hyn ac yn cychwyn ar eu taith eu hunain o ddysgu.鈥
Meddai Dr Chris Wensley, sy鈥檔 aelod o鈥檙 pwyllgor trefnu ers 30 mlynedd, 鈥淩ydym yn ddiolchgar am gydweithrediad penaethiaid Mathemateg mewn ysgolion uwchradd M么n, Conwy a Gwynedd wrth iddynt enwebu eu disgyblion Blwyddyn 9. Mae鈥檔 bleser gennym gael nawdd gan gwmni Magnox eleni ac, fel bob amser, mae cymorth y Sefydliad Brenhinol yn amhrisiadwy. Rydym yn edrych ymlaen at y 30 mlynedd nesaf.鈥
Cynhelir y sesiynau bob blwyddyn, rhwng Ionawr a Mawrth 鈥 cewch fwy o fanylion yngl欧n 芒鈥檙 rhaglen a sut i gymryd rhan ynddi ar y wefan: http://www.maths.bangor.ac.uk/masterclasses/
A aethoch chi i鈥檙 dosbarthiadau meistr rai blynyddoedd yn 么l? Os felly, rydym yn awyddus ichi gysylltu 芒 ni 鈥 rhowch wybod inni am yr hyn yr ydych yn ei wneud yn awr. Stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014